Cyhoeddi rhestr fer Cân i Gymru 2025

Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur fydd yn cyflwyno'r noson ym Mhen-y-bont ar Ogwr
- Cyhoeddwyd
Mae'r wyth cân sydd wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth Cân i Gymru 2025 wedi cael eu cyhoeddi.
Bydd Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn ôl i gyflwyno'r gystadleuaeth fydd yn cael ei chynnal yn Dragon Studios, Pen-y-bont ar Ogwr ar nos Wener 28 Chwefror.
Y cerddor Osian Huw Williams, prif leisydd y band Candelas a chyn gyd-enillydd y wobr, yw cadeirydd panel y beirniaid a fydd yn mentora'r cystadleuwyr ac yn cyflwyno tlws Cân i Gymru i'r cyfansoddwr buddugol.
Y beirniaid eraill yw'r cerddor Peredur ap Gwynedd; y gantores, actores a chyflwynydd Caryl Parry Jones, y rapiwr a chyfansoddwr Sage Todz a'r gantores a'r gyfansoddwraig Catty.
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2024
Y gwylwyr sy'n gyfrifol am ddewis cân fuddugol cystadleuaeth Cân i Gymru drwy bleidleisio am eu hoff gân.
Bydd proses bleidleisio newydd eleni a bydd y manylion yn cael eu rhannu yn ystod yr wythnos cyn y gystadleuaeth.
Fe fydd cyfansoddwr y gân fuddugol hefyd yn derbyn £5,000 a chytundeb perfformio, gydag ail wobr o £3,000 a thrydedd gwobr o £2,000.
Bydd yr holl ganeuon yn cael eu chwarae ar Radio Cymru o 18 Chwefror.
Rhestr Fer Cân i Gymru 2025
1. Troseddwr yr Awr
Cyfansoddi a pherfformio: Dros Dro

Y band Dros Dro sydd wedi cyfansoddi Troseddwr yr Awr a nhw hefyd fydd yn perfformio'r gân
2. Am Byth
Cyfansoddi: Geth Vaughan
Perfformio: Lewys Meredydd

Geth Vaughan ydy cyfansoddwr Am Byth
3. Torra Dy Gwys
Cyfansoddi: Elfed Morgan Morris, Carys Owen, Emlyn Gomer Roberts
Perfformio: Catrin Angharad Jones

Cyfansoddwyr Torra Dy Gwys ydi Elfed Morgan Morris, Carys Owen ac Emlyn Gomer Roberts
4. Gwydr Hanner Llawn
Cyfansoddi a pherfformio: Garry Owen Hughes

Garry Owen Hughes sydd wedi cyfansoddi Gwydr Hanner Llawn a fo hefyd fydd yn perfformio'r gân
5. Mae'r Amser Wedi Dod
Cyfansoddi a pherfformio: Heledd a Mared Griffiths

Heledd a Mared Griffiths ydi cyfansoddwyr Mae'r Amser Wedi Dod a nhw hefyd fydd yn perfformio'r gân ar y noson
6. Lluniau Ar Fy Stryd
Cyfansoddi: Meilyr Wyn
Perfformio: Gwen Edwards

Cyfansoddwr Lluniau Ar Fy Stryd ydi Meilyr Wyn
7. Hapus
Cyfansoddi a pherfformio: Geth Vaughan

Mae Geth Vaughan wedi cyfansoddi dwy gân yn y gystadleuaeth eleni
8. Diwedd y Byd
Cyfansoddi a pherfformio: Marc Skone

Marc Skone sydd wedi cyfansoddi ac a fydd yn perfformio Diwedd y Byd
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd29 Chwefror 2024