Pobl o 'dros y byd' wedi helpu pâr i adnewyddu tŷ yng Nghaerdydd

- Cyhoeddwyd
Mae Paloma Quinn Mills a'i phartner Chris Jones wedi bod yn byw bywyd anturus ers sawl blwyddyn. Dechreuodd y pâr deithio'r byd yn eu fan, 'Doreen', yn 2021, gan ddogfennu eu profiadau ar YouTube a Instagram.
Ond, ers 18 mis mae'r ddau wedi wynebu her newydd, sef adnewyddu tŷ bron i 150 oed yng Nghaerdydd.
Mae eu tudalen Instagram, @restoringnumberfour, wedi tyfu i gael dros 400,000 o ddilynwyr, ac yn portreadu siwrne Paloma a Chris wrth drawsnewid y tŷ "gwaethaf ar y stryd".

Cael seibiant o'r gwaith i dynnu llun
'Angen ailadeiladu'r holl dŷ'
Wrth drafod y prosiect ar raglen Trystan ac Emma ar BBC Radio Cymru, esboniodd Paloma fod y tŷ mewn cyflwr "ofnadwy" pan gafodd ei brynu.
"Pan oeddwn ni wedi gweld y tŷ ar lein, roeddwn ni wedi ffonio lan i allu gweld e, a wedodd y person ar y ffôn 'sai'n siŵr os allwch chi alw'r lle 'na'n dŷ, ond ie siŵr, os wyt ti eisiau gweld e'.

Cyflwr y gegin pan gafodd y tŷ ei brynu
"Oedd popeth [angen adnewyddu] – doedden ni methu actually agor y drws yn y cefn, achos oedd gymaint o bethe yn yr ardd. Roedd angen ailadeiladu'r holl dŷ basically, oedd e mor ddrwg", meddai.
Ers symud i mewn i'r tŷ, maen nhw wedi gorfod dibynnu ar porta potty yn y gegin wrth iddyn nhw weithio tuag at stafell 'molchi weithredol.

Cymorth rhyngwladol
Doedd dim profiad DIY gan yr un o'r ddau pan ddechreuon nhw weithio ar y tŷ, ond maen nhw wedi gallu dibynnu ar gefnogaeth gan bobl o ledled y byd yn ôl Paloma.
"Ma' fe jyst wedi bod yn amazing cael cymuned ar Instagram sydd yn gallu helpu ni gyda phenderfyniadau, a jyst gallu gofyn cwestiynau am sut i wneud pethau. Mae pobl dros y byd yn gallu helpu ni, ni wedi bod yn rili rili lwcus," esboniodd.
Ychwanegodd fod y ddau hefyd wedi defnyddio lot o fideos YouTube i helpu gyda'r gwaith adnewyddu.
"Dyna pam mae wedi cymryd mor hir, achos mae'n rhaid i ni ddysgu sut i 'neud popeth," meddai.

Paloma'n gwenu wrth weithio!
Ddim yn dyfaru
Er bod y prosiect wedi codi llond law o heriau, mae agwedd bositif iawn gan y pâr, a lot o gynlluniau ar gyfer dyfodol y tŷ - gan gynnwys sawna yn yr ardd.
Esboniodd Paloma na fyddai hi "byth yn newid" beth mae'r ddau wedi'i gyflawni gyda'r tŷ.
"Ma' fe'n rili anodd weithiau, ond mae gyda ni gymaint o gymuned i allu rhannu'r holl beth gyda, ma' fe ddim yn teimlo fel bod ni'n 'neud e ar ben ein hunain, ma' hwnna'n rili lyfli," meddai.

Llofft gorffenedig

Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd6 Chwefror
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2024