Ateb y Galw: Gwenllian Anthony

- Cyhoeddwyd
Un traean o'r grŵp Adwaith yw'r basydd Gwenllian Anthony. Mae'r grŵp o Gaerfyrddin (sydd hefyd yn cynnwys Hollie Singer yn canu a chwarae'r gitâr a Heledd Owen ar y drymiau) yn mynd o nerth i nerth.
Fe gymrodd Gwenllian saib o'i hamserlen brysur yn gigio ac yn hyrwyddo eu record hir ddiweddaraf, Solas, i ateb cwestiynau Cymru Fyw.
Beth yw eich atgof cyntaf?
Un o atgofion cyntaf fi yw gwylio rhyw ffilm yn Meithrin (ar y wheelie TV stand wrth gwrs) ac yn esgus cysgu, so allai mynd mewn i'r cozy cwtch i chwarae... nath e ddim gweithio.
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Mae'r cwestiwn 'ma rhy galed. Dwi'n caru Barafundle ar ddiwrnod braf, yn enwedig cerdded o Barafundle i Bosherston.

Y dail lili ysblenydd sydd i'w gweld wrth gerdded o fae Barafundle i Bosherston, Sir Benfro
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?
Aethon ni allan yn Austin ar ôl chwarae yn SXSW [gŵyl gerddoriaeth yn Texas] a dwi'n meddwl mai hwnna oedd un o'r nosweithiau gorau dwi 'di cael. Aethon ni allan gyda dau berson random natho ni gwrdd yn yr ŵyl, a mynd i'r bar bucking bronco.
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Penderfynol, cerddorol, sili.
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Mae meddwl am chwarae ar lwyfan The Park yn Glastonbury wastad yn gwneud i fi wenu. Dream come true go iawn!

Adwaith yn chwarae ar lwyfan The Park yng ngŵyl Glastonbury
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
Wnaeth trwser fi gwympo lawr achos nath yr elastig torri yng nghanol set ni ym Mryste o'r blaen. Oedd rhaid i fi neud gweddill y sioe yn sefyll gyda wide stance.
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grïo?
Nes i grïo yn gig ni ym Methesda (8 Chwefror 2025) oherwydd wnaeth rhywun o Fryste danfon fan mail i ni yn gweud faint mor bwysig yw'r band a'n cerddoriaeth i fe. Odd e'n ddydd emosiynol iawn!
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Cnoi ewinedd!
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Think Like a Monk gan Jay Shetty. Although fi'n meddwl bod e bach yn dodgy character, nes i rili joio beth oedd e'n siarad am a nath e newid outlook fi ar bywyd.
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?
Dave Datblygu. Fi moyn gwybod beth bydde fe'n gweud am albwm newydd ni!

Hoffai Gwenllian sgwrsio dros ddiod gyda David R. Edwards
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Ar hyn o bryd, dwi'n astudio Archaeoleg yn y brifysgol.
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?
Bydden i'n bwyta llawer, a mynd i nofio yn y môr!
Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?
Llun ohonom ni ar y ffordd i Black Bay Studios yn yr Outer Hebrides i recordio Solas.

Gwenllian a'r band ar eu ffordd i recordio eu halbym Solas ar un o ynysoedd yr Hebrides Allanol
Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Beyoncé, so allai neud unrhywbeth fi moyn am ddiwrnod.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2023
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd2 Medi 2024