Gwarchodwr Cymreig Diana - hanes 'sgŵp fwyaf' Merfyn Davies

Llun a gymrwyd cyn y gwrthdrawiad angheuol ar 31 Awst 1997, gyda Trevor Rees-Jones (chwith) yn sedd flaen a'r Dywysoges Diana yn y cefn
- Cyhoeddwyd
Roedd Merfyn Davies, sydd wedi marw yn 87 oed, yn ohebydd i raglenni BBC Cymru yn y gogledd-ddwyrain am ddegawdau.
Un sy'n cofio "sgŵp fwyaf" Merfyn yn y cyfnod yma yw'r newyddiadurwr Llion Iwan, sy'n rhannu ei atgofion gyda Cymru Fyw o'r diwrnod pan fu farw'r Dywysoges Diana.
Merfyn oedd y cyntaf i rannu'r stori mai Cymro, Trevor Rees-Jones, oedd gwarchodwr personol y dywysoges pan fuodd hi farw yn 1997 mewn damwain car.
Aeth y stori am y Cymro - oedd yr unig un i oroesi'r ddamwain - yn fyd-eang.
Llion fu'n rhannu'r hanes gyda Cymru Fyw.

Roedd Llion Iwan yn gweithio i adran newyddion Radio Cymru pan ddigwyddodd y ddamwain yn 1997
O'n i'n cynhyrchu efo newyddion Radio Cymru nôl yn y 1990au ac yn Awst 1997 'nes i weld y stori am farwolaeth Diana ar Ceefax yn hwyr ar y nos Sadwrn.
Felly oedd pawb yn y swyddfa yn gynnar ar y bore Sul.
Ar y pryd doedd 'na ddim lot o wybodaeth – oedd 'na ddamwain car wedi bod ac oeddet ti'n gwybod fod y ddau wedi marw.
Bob tro oeddan ni'n chwilio am stori efo amrywiaeth o leisiau yno fo, Merfyn oedd y gohebydd cyntaf oeddan ni'n troi ato fo achos oedd o'n adnabod ei batsh, ond hefyd oedd o'n adnabod ystod o bobl o wahanol lefydd.
'Naeth o roi galwad cyn cinio a dweud, 'dwi'n meddwl mod i'n gwybod pwy oedd yn y car efo Diana'.
"Wyt ti'n siŵr?" oedd fy nghwestiwn i.
"Ydw tad."

Trevor Rees-Jones oedd yr unig un i oroesi'r ddamwain ym Mharis yn 1997
A ffwrdd a fo.
Galwad arall wedyn ac oedd o'n gwybod y manylion - pwy oedd Trevor Rees-Jones, ei gefndir a'i fod o wedi bod yn y paratroopers ac rŵan yn bodyguard i'r Dywysoges.
Oedd ganddo gyfweliadau efo pobl oedd yn ei 'nabod o ac wedi chwarae rygbi efo fo yn ardal Y Trallwng.
Dwi'n cofio mynd â'r stori 'na ymlaen ac oedd pobl yn syn.
Yr holl adnoddau oedd gan bobl mewn gwahanol lefydd yn chwilio, a Merfyn Davies - y gohebydd o gefn gwlad Cymru - gafodd y stori.
Fuasen i'n dweud hwnna oedd ei sgŵp fwyaf o – ac yn dangos beth oedd newyddion Radio Cymru'n gallu gwneud.
Cafodd y stori ei rhyddhau ac oeddan ni'n gallu rhoi y manylion personol am Trevor Rees-Jones.

Mae'r stori yn "dangos cryfder Merfyn fel gohebydd", medd Llion Iwan
Mae'n dangos cryfder Merfyn fel gohebydd yn 'nabod ei ardal.
Oedd ganddo gysylltiadau efo ardal Y Trallwng.
Oedd o mewn cysylltiad efo'r clwb rygbi ac oedd gan Trevor Rees-Jones gysylltiad efo'r clwb rygbi, wedi chwarae yno.
'Cymeriad hoffus iawn'
Gohebydd naturiol oedd Merfyn oedd ddim yn dibynnu ar gyfrifiadur neu deledu.
Oedd o allan yn y gymuned a dyna oedd cryfder ei stori o – oedd o'n dod a'r lleisiau 'na i ti.
Oedd o bob tro yn gallu dod â'r straeon oedd yn digwydd yng nghefn gwlad.
Oedd o'n ohebydd ei filltir sgwâr – oedd o wedi dysgu ei grefft ac oedd ganddo'r cysylltiadau.
Oedd yr awch 'ma ganddo. Dyna oedd ei gryfder o.
Oedd o bob tro yn gwmni da, oeddat ti'n gallu cael sgyrsiau difyr efo fo ac oedd y sgyrsiau yna'n aml yn arwain at straeon.
Oedd o'n ohebydd traddodiadol iawn ac yn gymeriad hoffus iawn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd31 Awst 2017
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2017