Lansio adnodd darllen newydd i blant oed meithrin

  • Cyhoeddwyd
Llyfr

Bydd 10,000 o blant mewn meithrinfeydd yng Nghymru yn derbyn adnoddau dwyieithog am ddim i ddatblygu eu sgiliau llafar.

Nod cynllun Pori Drwy Stori yw annog plant ifanc i ddatblygu sgiliau darllen a gwrando ac i gefnogi rhieni a gofalwyr i gyfrannu at addysg plant tra'u bod yn yr ysgol feithrin.

Mae'r cynllun wedi ei ddatblygu gan BookTrust ac wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams yn lansio'r rhaglen ddydd Llun.

Datblygu sgiliau llafar

Dywedodd Ms Williams bod Llywodraeth Cymru yn "falch iawn" o allu cefnogi'r rhaglen, a'i bod "wedi ymrwymo i helpu plant ddatblygu sgiliau drwy raglenni o'r fath".

Bydd pob plentyn sy'n rhan o'r rhaglen yn derbyn dau becyn o adnoddau rhwng Ionawr a Mai eleni.

Mae'r pecyn cyntaf yn edrych ar rannu cerddi a chaneuon, ac mae'r ail yn canolbwyntio ar fwynhau darllen a siarad am lyfrau.

Cafodd y pecynnau eu datblygu gan BookTrust Cymru, ar y cyd gydag athrawon, arbenigwyr addysg a rhieni a gofalwyr.

Yn ôl Helen Wales, sy'n bennaeth ar gangen Cymru o BookTrust, mae sgiliau llafar a gwrando cryf yn gallu gwneud "gwahaniaeth mawr" i addysg plentyn.

"Mae gwneud amser i siarad, a rhannu llyfrau a cherddi wir yn gallu bod o fudd mawr i blentyn, a dyna natur Pori drwy Stori," meddai.

Ychwanegodd bod rhannu cerddi a straeon hefyd yn hwb i hyder plentyn.

"Rydym hefyd yn gwybod bod rhannu llyfrau a darllen gyda'n gilydd yn datblygu sgiliau ieithyddol a chyfathrebu ac yn gallu cyfoethogi geirfa plant.

"Yn fwy na hynny, maent yn weithgareddau mae plant yn mwynhau."