Dyn yn pledio'n euog i ladd nyrs trwy yrru'n beryglus

  • Cyhoeddwyd
Rebecca LouiseFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Rebecca Louise Edwards yn y fan a'r lle

Mae dyn 20 oed o Gricieth wedi pledio'n euog yn Llys y Goron Caernarfon i achosi marwolaeth nyrs trwy yrru'n beryglus.

Cafodd Osian Hicks-Thomas ei gadw yn y ddalfa ar ôl cyflwyno ple mewn cysylltiad â marwolaeth Rebecca Edwards, 34 oed o Lanberis, ar gyrion Pwllheli ym mis Rhagfyr.

Mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu ar 4 Chwefror ac mae'r barnwr Huw Rees wedi rhybuddio ei fod yn debygol o wynebu cyfnod hir o garchar.

Mae bellach yn wynebu cyhuddiad ychwanegol o yrru dan ddylanwad cyffuriau (cocên).

Roedd aelodau o deulu Ms Edwards, oedd yn gweithio fel nyrs yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, yn y llys ar gyfer y gwrandawiad.

Bu farw yn y fan a'r lle wedi gwrthdrawiad ar yr A499 yn ardal Penrhos - rhwng Pwllheli a Llanbedrog - ar 21 Rhagfyr.

Roedd y diffynnydd hefyd wedi ei gyhuddo o yrru o dan ddylanwad alcohol, peidio â stopio wedi gwrthdrawiad, a pheidio â rhoi gwybodaeth am y gwrthdrawiad.

Bydd y gwasanaeth prawf yn paratoi adroddiadau cyn y gwrandawiad dedfrydu.