Pryder awdur adroddiad Tawel Fan am ddiffyg gwelliannau
- Cyhoeddwyd
Dydy bwrdd iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddim hyd yn oed wedi dechrau ar y daith o wella gwasanaethau iechyd meddwl pobl hŷn, yn ôl awdur adroddiad beirniadol i ward dementia yn Sir Ddinbych.
Mewn llythyr at y gweinidog iechyd, dywedodd Donna Ockenden nad oedd gan uwch reolwyr "y gallu na'r ddawn" i gyflawni gwelliannau i wasanaethau iechyd meddwl pobl hŷn.
Cafodd ei chynnig i oruchwylio'r bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig ei wrthod gan Vaughan Gething.
Honnodd adroddiad gan Ms Ockenden yn 2015 fod triniaeth cleifion yn ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd gyfystyr â "chamdriniaeth sefydliadol".
Fe wnaeth adroddiad arall gan Ms Ockenden ym mis Gorffennaf 2018 ddisgrifio iechyd meddwl yng ngogledd Cymru fel "gwasanaeth Sinderela" gydag arweinyddiaeth "gwbl amhriodol a diffygiol".
Ond fe wnaeth adroddiad gan HASCAS gafodd ei gyhoeddi ym mis Mai 2018 ddod i'r casgliad nad oedd tystiolaeth o gam-drin sefydliadol yn Tawel Fan.
Mae gohebiaeth a ryddhawyd dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn nodi'r pryderon a barhaodd wedi i Ms Ockenden orffen casglu tystiolaeth.
Wrth ysgrifennu at y gweinidog iechyd dywedodd: "Fy mhryder yw nad yw Bwrdd y bwrdd iechyd a'r uwch dîm rheoli o fewn iechyd meddwl yn Betsi Cadwaladr ar hyn o bryd yn meddu ar y gallu i weithredu ar yr adolygiad systemig i sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl pobl hŷn yn well i staff, i gleifion ac i ofalwyr."
Dywedodd fod y staff wedi dweud wrthyn nhw eu bod wedi "llwyr ymlâdd", "ar eu gliniau" a bod y gwasanaethau'n "mynd yn ôl".
Ychwanegodd Ms Ockenden: "Disgrifiodd un nyrs yn y ward i mi yr wythnos diwethaf ymweliad diweddar gan uwch reolwr i ward cleifion iechyd meddwl pobl hŷn."
Dywedodd bod un aelod o staff wedi cymharu ymweliad yr uwch reolwr" â chyflymder Usain Bolt yn rhedeg y 100 metr o ran mynd o un pen y ward i'r llall".
"Fe lwyddodd i adael y ward heb siarad ag un aelod o staff neu glaf," meddai'r aelod staff.
'Cyllid ychwanegol'
Ym mis Awst, dywedodd Donna Ockenden y byddai'n "wirioneddol falch" i gynorthwyo gyda'r gwaith o oruchwylio gwelliannau o fewn y bwrdd iechyd.
Wrth ymateb i'w phryderon dywedodd Mr Gething ei fod wedi gofyn i swyddogion gael gwybod am y camau a gymerwyd gan y bwrdd iechyd o ganlyniad i'r llythyr.
Wrth wrthod cynnig Ms Ockenden i helpu ymhellach, dywedodd y gweinidog: "Rwy'n hyderus ar hyn o bryd y bydd y gefnogaeth a'r oruchwyliaeth ychwanegol yr wyf wedi'i gyhoeddi yn ddiweddar ar gyfer y bwrdd iechyd, ynghyd â chadeirydd cryf newydd a fydd yn cael ei gefnogi gan nifer o aelodau annibynnol newydd, yn darparu'r arweinyddiaeth a'r her sydd ei hangen i yrru'r daith o wella Betsi Cadwaladr."
Dywedodd Gary Doherty, prif weithredwr Betsi Cadwaladr: "Rydym wedi cymryd camau ar ganfyddiadau adroddiadau Ockenden ac wedi gwneud ymdrechion sylweddol i wella ein Gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn.
"Mae hyn wedi cynnwys buddsoddi cyllid ychwanegol sylweddol i'r gwasanaethau hyn.
"Mae meysydd ffocws allweddol wedi cynnwys gweithio gyda theuluoedd i ddarparu gofal gwirioneddol sy'n canolbwyntio ar y person, a gwella'r hyfforddiant a'r gefnogaeth a roddir i staff.
"Rydym yn falch bod Ysbyty Gwynedd wedi dod yn ysbyty aciwt cyntaf yng Nghymru i dderbyn statws 'Dementia Cyfeillgar' gan Gymdeithas Alzheimer.
"Mae canfyddiadau ymweliadau dirybudd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn dangos bod safonau gofal ar ein hunedau iechyd meddwl yn gwella, ac mae ein staff yn frwdfrydig ynglŷn â sut y maent yn gofalu am gleifion.
"Mae hyn hefyd yn cael ei adlewyrchu yn y canlyniadau diweddaraf o'n Harolwg Staff GIG Cymru blynyddol, sy'n dangos y bydd nifer y staff a fyddai'n argymell Betsi Cadwaladr fel lle i weithio wedi cynyddu 45% ers 2013."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mai 2018
- Cyhoeddwyd3 Mai 2018
- Cyhoeddwyd8 Mai 2018
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2018