Cynnydd dros 50% yn ffyrdd gwael Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae nifer y priffyrdd sydd mewn cyflwr gwael wedi cynyddu dros 50% yn ystod y tair blynedd hyd at 2011.

Mae cynghorau Cymru yn cydnabod bod 'na broblem sylweddol gyda chyflwr y ffyrdd.

Oherwydd maen nhw wedi gorfod benthyca degau o filiynau o bunnau gan Lywodraeth Cymru er mwyn mynd i'r afael a'r broblem.

Ond mae llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mewn cyfweliad â rhaglen Sunday Politics BBC Cymru yn dweud eu bod yn disgwyl i "gyflwr y ffyrdd fod yn weddol wrth i'r gaeaf agosáu".

Mae 'na 243,000 tunnell o halen wrth gefn ar gyfer graeanu'r ffyrdd, yn ôl y Llywodraeth o'i gymharu â 137,000 tunnell oedd ar gael yn ystod hydref 2010.

Mae'r Cynghorau lleol yn gyfrifol am 95% o'r gwaith cynnal ar ffyrdd Cymru gyda Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am y gweddill, er enghraifft yr A55 yn y gogledd a'r M4 yn y de.

Tywydd garw sy'n cael y bai am gynnydd mewn tyllau yn y ffyrdd.

Mae Malcolm Griffiths yn berchen garej yn Aberdâr.

Costau i gwsmeriaid

Mewn cyfweliad ar gyfer Sunday Politics, dywedodd fod nifer y ceir mae o'n ei drin oherwydd difrod gan dyllau wedi cynyddu yn sylweddol.

"Mae'n dda i fusnes" meddai.

"Ond nid yn beth da i bocedi cwsmeriaid.

"Mae costau cydrannau i gar yn ddrud.

"Mae olwyn i fodur Fiesta, er enghraifft, tua £140 a gyda chost llafur ar ben hynny, mae'n fusnes costus."

Mae arolwg blynyddol gan AIA (Asphalt Industry Alliance), sef cymdeithas y cwmnïau sy'n gosod tarmac ar y ffyrdd, yn amcangyfrif fod angen 17 myned yng Nghymru i glirio'r holl waith trwsio sydd angen i'w wneud; 9 mlynedd yn Llundain a 11 mlynedd yng ngweddill Lloegr.

"Mae 'na sawl rheswm am hyn," ym marn David Weeks, Prif Weithredwr yr AIA.

"Mae 'na nifer fawr o lonydd gwledig sydd ddim yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth.

"Ond mae 'na nifer sylweddol o lonydd pwysig hefyd sydd heb gael y sylw priodol.

"Mae'r arolwg yn awgrymu fod ffyrdd yn cael wyneb newydd pob 75 mlynedd yng Nghymru o'i gymharu â 45 mlynedd yn Lloegr a'r Alban."

Gyda'r gaeaf yn agosáu, mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod ganddyn nhw well storfeydd i gadw halen a gwell dulliau o'i ddefnyddio.

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol