Carcharu gyn-gynghorydd am droseddau cam-drin plant

  • Cyhoeddwyd
Rene KinzettFfynhonnell y llun, NCA

Mae cyn-arweinydd grŵp y Ceidwadwyr ar Gyngor Abertawe wedi cael ei garcharu am 45 mis am gyfres o droseddau'n ymwneud â cham-drin plant ar-lein.

Plediodd Rene Kinzett, 43 oed o Sgeti, Abertawe, yn euog i 14 cyhuddiad oedd yn dyddio'n ôl i gyfnod rhwng 2008 a 2017.

Roedd gan Kinzett - fu hefyd yn ymgeisydd seneddol dros Orllewin Abertawe i'r Blaid Geidwadol - fideos o blant mor ifanc â thair oed yn cael eu treisio ar ei gliniadur.

Roedd y cyhuddiadau yn cynnwys dosbarthu, creu a meddu ar bornograffi plant o'r categori uchaf.

'Tua 700' o ddelweddau

Cafodd ei arestio a'i holi gan Heddlu'r Met yn 2015. Cafodd ei ddal wedyn yn 2017 yn mewngofnodi i fforwm ar-lein i wylio fideo o blant yn cael eu treisio.

Roedd yn bresennol wrth saith fideo categori A (y mwyaf difrifol), un categori B ac un categori C gael eu ffrydio.

Dywedodd yr erlynydd fod "tua 700" o ddelweddau anweddus o blant ar liniadur Kinzett.

Dywedodd Paul Hobson, oedd yn amddiffyn Kinzett, bod "tystiolaeth ei fod wedi gofyn i Stop it Now am gymorth am broblemau gyda chyffuriau ac alcohol".

Dywedodd y Barnwr Neil Sanders fod Kinzett yn gorfod cael ei ddedfrydu i garchar, oherwydd natur ddifrifol y troseddau.

"Roedd y diffynnydd yn rhan o broses oedd yn cynorthwyo rhannu delweddau anweddus," meddai.

Yn ogystal â dedfryd o 45 mis, mae Kinzett wedi ei wahardd rhag cysylltu ag unrhyw un dan 18 ar-lein.