Ymestyn dedfryd dyn am gam-drin bachgen yn rhywiol

  • Cyhoeddwyd
Graham Stridgeon
Disgrifiad o’r llun,

Roedd dedfryd wreiddiol Graham Stridgeon yn rhyy drugarog, ym marn y Llys Apêl

Mae'r Llys Apêl wedi ymestyn dedfryd dyn am gam-drin bachgen yn rhywiol mewn cartref gofal yn Wrecsam dros 40 mlynedd yn ôl.

Cafodd Graham Joseph Stridgeon o Fleetwood yn Sir Gaerhirfryn ddedfryd o dair blynedd a hanner dan glo yn Hydref 2018 ar ôl pledio'n euog o gyhuddiadau o gam-drin bachgen oedd dan 15 oed.

Mae'r ddedfryd bellach wedi ei hymestyn i bum mlynedd a 10 mis o garchar, gyda chyfnod estynedig o dair blynedd ar drwydded, wedi i'r llys dyfarnu fod y gosb wreiddiol yn rhy drugarog.

Fe ddigwyddodd y camdriniaeth yng nghartref gofal Bryn Estyn rhwng Mehefin 1973 a Rhagfyr 1974.

Roedd y diffynnydd, sydd bellach yn 64 oed, yn ei arddegau hwyr ar y pryd, ac fe gafodd ei arestio fel rhan o Ymchwiliad Pallial.