Cyhoeddi gwerth £380,500 o nawdd i gylchgronau Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
cylchgronau Cymraeg

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi gwerth £380,500 o grantiau ar gyfer cylchgronau Cymraeg rhwng 2019-23.

Amcan y cynllun yw sicrhau cyhoeddi amrywiaeth o gylchgronau bywiog ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n cynnwys newyddiaduraeth safonol a thrafodaethau ar nifer o bynciau amrywiol.

Ymysg y cylchgronau sydd wedi derbyn nawdd mae; Golwg, Barn, WCW, O'r Pedwar Gwynt a Barddas.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: "Mae cael portffolio eang o gylchgronau yn sylfaenol i gynnal diwylliant hyfyw ac yn gyfraniad uniongyrchol i ledaenu defnydd o'r iaith."

Fe wnaeth 19 o gyhoeddiadau geisio am nawdd, gan gynnwys dau oedd yn gwbl newydd i'r maes.

Roedd 17 o'r teitlau yn llwyddiannus, yn ogystal â chynnig arian datblygu untro i ddau deitl arall.

Roedd dau syniad newydd sbon - Lysh, cylchgrawn digidol ar gyfer merched yn eu harddegau cynnar a Cara, cylchgrawn ar gyfer menywod o bob oed, ymysg y ceisiadau llwyddiannus.

Mae'r arian hwn yn rhan o'r Grant Cyhoeddi a ddaw oddi wrth Lywodraeth Cymru.

'Ymateb i her y byd digidol'

Dywedodd Robat Arwyn, Cadeirydd y Panel: "Mewn cyfnod anodd o ran cyllido a gwerthiant cylchgronau'n gyffredinol, mae'n braf gweld y diwydiant yn ymateb gyda syniadau newydd sbon a pharodrwydd i ymateb i her y byd digidol."

"Mae'r cylchgronau hefyd yn cynnig cyfle i ymdrin â phynciau amrywiol drwy'r Gymraeg ac i hybu trafodaeth am faterion y dydd."

Dau gylchgrawn digidol, Mam Cymru a Parallel.cymru, sydd yn derbyn swm untro o £5,000 yr un.

Bydd cyfnod y trwyddedau newydd yn dechrau ar 1 Ebrill 2019.

Dyma'r 17 cyhoeddiad fydd yn derbyn arian dros y pedair blynedd nesaf:

  • Barddas - £20,000

  • Barn - £80,000

  • CIP - £20,000

  • Cristion - £2,000

  • Fferm a Thyddyn - £1,500

  • Golwg - £77,000

  • Lingo Newydd - £18,000

  • Llafar Gwlad - £7,000

  • Mellten - £14,000

  • O'r Pedwar Gwynt - £34,000

  • WCW - £30,000

  • Y Cymro - £24,000

  • Y Selar - £11,000

  • Y Traethodydd - £4,000

  • Y Wawr - £8,000

  • Cara - £10,000

  • Lysh - £20,000