Cylchgronau Cymraeg: Rhy gostus?
- Cyhoeddwyd
Yn ddiweddar cyhoeddodd y Cyngor Llyfrau pa gylchgronau a chyhoeddiadau Cymraeg fyddai'n derbyn grantiau dros y tair blynedd nesa' - gyda'r symiau'n amrywio o £1,500 i £80,000 y flwyddyn. Y darlithydd mewn cyfryngau ac ymarfer creadigol, Dyfrig Jones, sy'n trin a thrafod y grantiau, a'r her ehangach sy'n wynebu cyfnodolion Cymraeg erbyn hyn.
Mae 'na flynyddoedd lawer, bellach, ers i fy nghyfnod i yn Barn ddod i ben, ond dwi'n dal i deimlo teyrngarwch at y cylchgrawn y cefais y fraint o'i olygu am gyfnod byr. Er ei fod yn waith caled dros ben, roedd yn swydd lle 'roeddwn i'n fodlon, a lle 'roeddwn i'n edrych ymlaen at gael mynd i lawr i fy swyddfa fechan ar Stryd Fawr Bethesda i geisio rhoi trefn ar yr holl eiriau a delweddau a gai eu gyrru ata i ar e-bost.
Ond os oedd 'na un rhan o'r swydd nad oeddwn i'n ei mwynhau, gorfod mynd â'n capiau yn ein dwylo at y Cyngor Llyfrau oedd honno. Diolch byth, doeddwn i ond yn y swydd yn ddigon hir i orfod dioddef hyn unwaith, ac roedd hynny unwaith yn ormod.
Serch hynny, ddylwn i ddim grwgnach - mae'n siŵr mai Grant y Cyngor Llyfrau sy'n cynnal Barn, ac felly fe roeddwn i'n eithriadol o falch o weld bod y Cyngor Llyfrau wedi ymestyn oes y cylchgrawn am dair blynedd arall. Digon ansicr ydi dyfodol pob papur newydd y dyddiau yma, hyd yn oed y cewri mawr Saesnig. Ond mae'r her sy'n wynebu cyfnodolion Cymraeg yn arbennig o frawychus.
O dro i dro, fe glywch chi rai yn cwyno ein bod ni'r Cymry yn rhy ddibynnol ar arian cyhoeddus, ond diolch i'r nef bod cystal cefnogaeth yn cael ei roi i gylchgronau Cymru. Prin yw'r ffynonellau o newyddion annibynnol o Gymru, ac mae'r cyfoeth o ddeunydd sy'n cael ei gynnal gan grant y Cyngor Llyfrau yn gwneud cyfraniad hanfodol at y drafodaeth gyhoeddus yma.
'Talu ddwywaith'
O ystyried y cyfraniad yma, mae 'na un elfen o'r drefn ariannu sydd yn fy mhryderu, rhyw ychydig bach. Un o chwiwiau nawdd cyhoeddus i'r celfyddydau ydi bod y defnyddiwr yn aml yn talu ddwywaith am y cynnyrch. Os ydych chi'n prynu tocyn i fynd i'r Tŷ Opera Cenedlaethol yn Llundain, rydych yn gwneud hynny gan wybod yn iawn fod cyfran o'ch trethi eisoes wedi mynd i dalu am gostau creu'r cynhyrchiad. Ac mewn sawl maes, rydym ni wedi hen arfer ar y drefn yma, ac yn ei dderbyn yn ddi-gwestiwn.
Ond mae byd newyddiaduraeth yn wahanol, yn enwedig newyddiaduraeth ar-lein. Dwi'n darllen ystod o gyhoeddiadau ar y we, ac yn gwneud hynny heb dalu'r un geiniog. Chwithig, felly, ydi ymweld â gwefan Barn a gweld erthyglau'n cael eu torri yn eu hanner, neu ddarllen pwt ar wefan Golwg, gyda nodyn ar waelod y dudalen yn fy nghyfeirio at rifyn yr wythnos honno.
'Gwobrwyo rhai sy'n mentro'
Fe fyddai'n braf gallu byw mewn byd lle mae'r celfyddydau i gyd ar gael yn rhad ac am ddim i bawb, ond fe wn i nad ydi'r freuddwyd honno yn un ymarferol. Ond dwi'n credu bod lle i ni ehangu'r mynediad i gylchgronau Cymraeg.
Rwy'n deall yr ofn sydd gan rai, y bydd rhoi rhagor o erthyglau am ddim ar-lein yn tanseilio gwerthiant y cylchgronau papur, ond dwi ddim wedi fy argyhoeddi fod hwn yn fygythiad gwirioneddol. Denu darllenwyr newydd at y cylchgronau fyddai ehangu'r ddarpariaeth ar-lein, yn fy nhyb i, nid dwyn yr hen rai.
Mewn llai na thair blynedd bydd cyhoeddwyr cylchgronau Cymru yn ceisio unwaith eto am nawdd. Fy awgrym i yw y dylai'r Cyngor Llyfrau, bryd hynny, neilltuo cyfran o'r grant yn benodol i wobrwyo'r cyhoeddwyr hynny sydd yn fodlon mentro, a chynnig ei harlwy am ddim, ar-lein. Fel hyn, bydd cyfoeth cyhoeddi Cymraeg ar gael i fwy o bobl nag erioed o'r blaen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2015