Llanymddyfri i groesawu Eisteddfod yr Urdd yn 2021

  • Cyhoeddwyd
Logo Croeso

Fe fydd Eisteddfod yr Urdd 2021 yn cael ei chynnal yn Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd y mudiad ieuenctid fod y penderfyniad wedi ei gadarnhau mewn cyfarfod o'r pwyllgor gwaith yng Nghefneithin nos Fawrth.

Cafodd Aled Rees hefyd ei ethol yn gadeirydd y pwyllgor.

Un sydd wedi bod yn ymgyrchu'n frwd dros ddenu'r ŵyl i Ddyffryn Tywi yw Dai Dyer.

"Hwn fydd y digwyddiad mwyaf erioed i ddod i Lanymddyfri a'r cylch, a does dim amheuaeth y bydd yr hen a'r ifanc i gyd yn dod yn rhan o'r digwyddiad - boed yn y trefnu neu'r diwylliant neu'r ddau," meddai.

Fe fydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd eleni, ac yna'n ymweld â Dinbych yn Nyffryn Clwyd yn 2020.