Pryder am ymwneud Carwyn Jones ag ymchwiliad annibynnol
- Cyhoeddwyd
Mae cyfreithwyr ar ran teulu Carl Sargeant wedi dweud fod cyn Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi ymddwyn fel "barnwr yn ei lys ei hun" drwy lunio'r ffiniau o ran ymchwiliad annibynnol i ddiswyddiad Carl Sargeant.
Mae'r bargyfreithiwr sydd wedi'i benodi i arwain yr ymchwiliad wedi mynegi pryder ynglŷn ag ymwneud Mr Jones.
Bu farw Mr Sargeant yn Nhachwedd 2017 ar ôl i Mr Jones ei ddiswyddo fel Ysgrifennydd Cymunedau. Cafwyd hyd i'w gorff bedwar diwrnod yn ddiweddarach yn ei gartref - mae cwest yn trin y farwolaeth ar hyn o bryd fel un drwy grogi.
Wedi'r farwolaeth ac yn dilyn pwysau gan deulu Mr Sargeant a gwleidyddion Llafur, fe alwodd Mr Jones am ymchwiliad i edrych ar sut y gwnaeth ymdrin â diswyddiad Mr Sargeant.
Tystiolaeth newydd
Fe gafodd Paul Bowen QC ei benodi i arwain yr ymchwiliad gyda'r teulu yn cytuno, ond mae penderfyniad y teulu i gwestiynu'r drefn drwy adolygiad barnwrol yn golygu nad yw eto wedi dechrau'r gwaith.
Fe wnaeth cyfreithwyr ar ran gweddw Mr Sargeant, Bernie Sargeant, ddweud ddydd Iau fod tystiolaeth newydd wedi dod i'r amlwg yn ystod y paratoadau o'r adolygiad barnwrol sy'n gwrth-ddweud datganiadau Mr Jones y byddai'r ymchwiliad "yn annibynnol" a ddim yn ei gynnwys ef.
Fe wnaeth Lesley Thomas QC gyfeirio ar lythyr gafodd ei anfon gan Paul Bowen QC ar 20 Ebrill 2018, ble mae Mr Bowen yn codi pryderon ynglŷn ag ymwneud Carwyn Jones a'r posibilrwydd fod "gwrthdaro buddiannau."
Yn ôl Mr Thomas, un o benderfyniadau Mr Jones oedd nad oedd modd iddyn nhw ei groesholi.
"Mae'n rheoli'r broses ble byddai'n rhoi tystiolaeth" meddai Mr Thomas wrth ddau farnwr.
"Rydym yn dweud, pan fo ymchwiliad, dylai'r person syn cael ei ymchwilio ddim gallu gosod yr amodau."
Mae Mr Thomas yn dadlau y dylai Mr Jones fod wedi rhoi'r pwerau yn ymwneud a'r ymchwiliad i was sifil neu Gweinidog o fewn ei Lywodraeth.
Dywedodd dylai'r protocol sy'n datgan sut y dylai'r ymchwiliad gymryd rhan gael ei ddiddymu.
Dywedodd y bargyfreithiwr ar ran y teulu: "Dyma wall sylfaenol, diffyg tegwch ac anghyfreithlondeb y broses. Mae'n gwbl gamarweiniol."
Ychwanegodd fod y broses yn "groes i gyfiawnder naturiol" gan nad oedd Mrs Sargeant yn ymwybodol o ymwneud Mr Jones o ran yr amodau.
'Diffyg tegwch'
Dywedodd Catherine McGahey QC sy'n cynrychioli Carwyn Jones nad oedd ganddo ddewis ond llunio'r ffiniau fewn i'r ymchwiliad gan fod y gyfraith yn dweud mai ond efe allai roi gorchmynion o'r fath.
"Mae'r pwerau a'r cyfrifoldebau yn ymwneud â fo, doedd dim modd i'r cyfrifoldeb fod yn un agored," meddai.
Roedd Carwyn Jones wedi rhoi'r pwerau o ran yr ymchwiliad yn nwylo'r Ysgrifennydd Parhaol i Lywodraeth Cymru, Shan Morgan.
Dywedodd Ms McGahey fod Ms Morgan angen cael syniad ac "arweiniad rhesymol" o ran beth oedd yn ddisgwyliedig ohoni.
Dywedodd hefyd fod Carwyn Jones wedi addo i'r tair oedd wedi cwyno am Mr Sargeant na fyddai'n pasio eu manylion i neb arall.
Dyna pam, medd Ms McGahey, fod Carwyn Jones wedi mynnu ar rai amodau, sef fod "ganddo gyfrifoldeb ymddiriedaeth tuag atyn nhw".
Fe wnaeth Ms McGahey hefyd ddweud fod Mr Jones wedi ymwneud ymhellach ar ôl i Paul Bowen QC ofyn am newidiadau i rai amodau a oedd yn mynd y tu hwnt i'r hyn oedd yn nwylo Shan Morgan.
Ychwanegodd fod "pob penderfyniad a gymerwyd wedi bod yn fwy manteisiol i'r teulu neu'r ymchwilydd".
Bydd y barnwyr nawr yn dyfarnu ar beth ddisgrifiwyd ganddyn nhw fel "achos anodd ond un diddorol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2018