Canfod protein sy'n "cyfrannu at dwf celloedd canser"

  • Cyhoeddwyd
sgrinio canser y fronFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi dod o hyd i brotein sydd yn "cyfrannu at dwf celloedd canser".

Yn ôl gwyddonwyr, mae'r protein o'r enw LYN yn "cael effaith ar ba mor gyflym mae celloedd canser ymosodol yn lledaenu".

Mae tua 11,000 o bobl yn marw o ganser y fron bob blwyddyn yn y DU, gyda 150 o bobl yn derbyn diagnosis newydd bob dydd.

Gobaith yr ymchwilwyr yw darganfod sut i dargedu'r protein er mwyn gwella'r driniaeth ar gyfer canser y fron.

Roedd gwaith ymchwil y Brifysgol yn ceisio darganfod beth yn union sy'n cyfrannu at dyfiant math arbennig o ganser y fron.

Dywedodd yr athro Matt Smalley: "Edrychom ar brotein o'r enw LYN, sy'n ymwneud â chadw celloedd yn fyw a'u galluogi i wahanu."

"Daethom i ddeall nad yw'n cael ei reoli yn iawn mewn celloedd canser ymosodol, a bod hynny yn gallu cyfrannu at dwf a faint mae'r celloedd hyn yn lledaenu."

Bydd y tîm nawr yn edrych ar sut y gallai triniaethau canser y fron gael eu cynllunio fel eu bod nhw'n addas ar gyfer cleifion sydd â lefelau uchel o LYN.