Enwi pont ar ôl un o arwyr y Rhyfel Byd Cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Sgt Maj John Henry Williams, known as JackFfynhonnell y llun, Cyngor Blaenau Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Cyfeiriodd erthygl bapur newydd yn 1918 at ddewrder ac ymroddiad John Henry Williams

Mae Llywodraeth Cymru wedi anrhydeddu milwr a gafodd Groes Fictoria wedi ei ddewrder yn y Rhyfel Byd Cyntaf drwy enwi pont ar ei ôl.

Cafodd yr Uwch-Ringyll John Henry Williams - oedd yn cael ei adnabod fel Jack - ei eni yn Nant-y-glo, Blaenau Gwent yn 1886.

Roedd yn aelod o 10fed Bataliwn Cyffinwyr De Cymru (South Wales Borderers) ac fe gafodd ei anrhydeddu â Chroes Fictoria am achub cyd-filwyr ac atal pentref cyfan rhag cael ei ddinistrio'n llwyr.

Mae Pont Jack Williams, sy'n 50 metr uwchben y tirwedd, yn rhan o brosiect deuoli newydd yr A465 rhwng Bryn-mawr a Gilwern.

Ddiwedd y llynedd fe wnaeth y Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates, a'r prif gontractiwr Costain wahodd aelodau'r gymuned i awgrymu enwau ar gyfer y bont.

Roedd tri ffefryn amlwg:

  • Pont Jack Williams

  • Pont Cwm Clydach

  • Pont Bechgyn Bevin

Un o'r 'dynion dewraf'

Dywedodd wyres Mr Williams, Ann Page bod y teulu'n "eithriadol o falch" ohono, ac "yn ddiolchgar iawn fod pobl Blaenau Gwent yr un mor falch ohono a'u bod yn awyddus i gadw'r straeon amdano yn y cof drwy gefnogi digwyddiadau coffa.

"Bydd enwi'r bont arbennig hon ar ei ôl yn ysgogi diddordeb cenedlaethau'r dyfodol mewn ymchwilio i'w hanes," meddai, "a deall pam y dylai ei weithredoedd dewr yn ystod y Rhyfel Byd gael eu cofio am byth, yn ogystal ag aberth enfawr yr holl ddynion ifanc a'u teuluoedd.

"Mae Jack a holl enillwyr y Victoria Cross yn rhan bwysig o'n hanes - dyma ein dynion dewraf."

Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters: "Roedd Jack Williams yn arwr go iawn ac mae enwi pont mor arbennig ar ei ôl, a hynny o fewn ei ardal enedigol, yn deyrnged addas i ddyn a ddylai gael ei gofio am byth.

"Bydd y cyswllt hwn â Jack yn creu gwaddol y gall cenedlaethau'r dyfodol ei fwynhau.

"Mae'r ffaith ein bod yn gwneud hyn bron i 100 mlynedd yn union ers i Jack dderbyn ei Victoria Cross gan y Brenin ym Mhalas Buckingham yn gwneud y deyrnged yn un hyd yn oed mwy arbennig."

Mae seremoni swyddogol enwi'r bont yn cael ei chynnal ddydd Llun.