May: Cymru i gael mwy o rôl yn nhrafodaethau Brexit
- Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May wedi dweud y bydd gan Lywodraeth Cymru "fwy o rôl" yng ngham nesaf trafodaethau Brexit.
Os na fydd Mrs May yn ennill cefnogaeth i'w chynllun, bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar 29 Mawrth.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ar Twitter fod "perygl gwirioneddol" y bydd hynny'n digwydd.
Yn siarad yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Llun, dywedodd Mrs May: "Er mai llywodraeth ei Mawrhydi fydd wastad yn negydu ar ran y DU gyfan, rydym hefyd wedi ymrwymo i roi mwy o rôl i'r [llywodraethau] datganoledig yn y cam nesaf, gan barchu eu gallu a'u diddordebau hanfodol yn y trafodaethau hyn.
"Rwy'n gobeithio cwrdd â Phrif Weinidogion yn ystod yr wythnos hon a byddaf yn defnyddio'r cyfle i drafod hyn ymhellach gyda nhw."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gobeithio y bydd cyfarfod rhwng Mrs May a Mr Drakeford yn digwydd yr wythnos hon.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn dilyn datganiad Mrs May ddydd Llun fe wnaeth AS Ceidwadol Aberconwy, Guto Bebb, ei chyhuddo o wneud diddordebau gwleidyddol y Ceidwadwyr yn fwy o flaenoriaeth na lles y DU.
Ychwanegodd y cyn-weinidog bod strategaeth y Prif Weinidog yn "bryderus iawn".
Canslo ffi £65
Fe gadarnhaodd Mrs May hefyd na fydd trigolion Ewropeaidd yn gorfod talu ffi o £65 am yr hawl i barhau i fyw yn y DU wedi Brexit.
Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu gan arweinydd y brif wrthblaid, Jeremy Corbyn.
Yr wythnos diwethaf cafodd Mrs May ei threchu yn drwm yn Nhŷ'r Cyffredin ar ei chytundeb Brexit.
Yn syth ar ôl y bleidlais fe alwodd arweinydd y blaid Lafur, Mr Corbyn, am bleidlais o ddiffyg hyder yn y llywodraeth.
Fe bleidleisiodd 325 o aelodau seneddol o blaid llywodraeth Mrs May, a 306 yn erbyn - mwyafrif o 19.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2019