Comisiynydd yn symud i Gymru tair blynedd ers ei benodi
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiynydd Traffig Cymru wedi dweud y bydd yn cael swyddfa yng Nghymru cyn iddo ymddeol ym mis Medi - bron i dair blynedd ers cael ei benodi i'r swydd.
Dywedodd Nick Jones wrth Aelodau Cynulliad bod swyddfa ddwyieithog yn debygol o gael ei lleoli yng Nghaernarfon.
Pan gafodd y swydd ei chreu yn Hydref 2016 y bwriad oedd cael swyddfa yng Nghymru gyda thri o staff cynorthwyol dwyieithog.
Ond bu Mr Jones yn gwneud ei waith o Birmingham, ac mae'n parhau i weithio oddi yno.
Dywedodd fod cynlluniau blaenorol i sefydlu swyddfa yng ngogledd Cymru wedi methu.
Wrth gyflwyno'r cynlluniau diweddaraf gerbron pwyllgor economi'r Cynulliad, fe gyfaddefodd Mr Jones fod y broses o sefydlu swyddfa yng Nghymru wedi bod yn rhy araf.
"Ydych chi'n deall pam fod aelodau yn edrych wedi'u drysu o feddwl ei bod hi wedi bod mor gymhleth i wneud rhywbeth mor syml â sefydlu swyddfa?" meddai AC Llafur Hefin David.
"Ydw," meddai Mr Jones, gan ychwanegu fod y broses wedi bod yn un "rhwystredig".
"Yr anhawster yw bod comisiynydd traffig ddim yn rheoli staff."
Dywedodd bod problemau wedi bod yng Nghaerdydd o ran recriwtio staff a chostau adeiladau, tra bod lleoliad arall yn y gogledd heb weithio oherwydd bod y safle wedi newid dwylo.
Ond y gobaith bellach, meddai, yw bod Llywodraeth Cymru yn arwyddo prydles ar adeilad yn yr wythnosau, "os nad y dyddiau nesaf".
Beth yw'r rôl?
Swydd y Comisiynydd Traffig yw trwyddedu a rheoleiddio cwmnïau bysus a cherbydau trwm, a gweithredu os ydyn nhw'n torri rheolau.
Yn 2016 fe benderfynodd llywodraethau Cymru a'r DU ariannu swydd benodol ar gyfer Comisiynydd Traffig i Gymru, ar gyflog o £97,354 y flwyddyn.
Cyn hynny roedd Mr Jones yn cyflawni'r swydd ar y cyd gydag ardal gorllewin canolbarth Lloegr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2017