Dynes gyda'i theulu yng Nghaerdydd ar ôl ffoi o Yemen
- Cyhoeddwyd
Mae dynes a gafodd ei chipio a'i chymryd yn anghyfreithlon gan ei thad i Yemen pan oedd yn fabi wedi dychwelyd i gartref ei mam yng Nghaerdydd.
18 mis oed oedd Safia Saleh pan gafodd hi a dwy chwaer eu cipio yn 1986, ac mae'n dweud ei bod wedi ymdrechu'n ofer i adael Yemen ers 2006.
Noswyl Nadolig fe lwyddodd i ffoi o'r wlad, sydd yng nghanol rhyfel cartref, i'r Aifft gyda'i gŵr a'u pedwar o blant, ac fe sefydlwyd apêl ar-lein am help ariannol ac ymarferol fel eu bod yn gallu dod i Gymru.
Dywedodd Mrs Saleh ei bod yn "hapus iawn" i fod yn Nhrelái gyda'i mam, Jackie Saleh, a'i hanner chwaer, Lucy Hewer ar ôl cyrraedd Caerdydd nos Fercher.
Roedd rhieni Mrs Saleh wedi gwahanu pan gafodd hi a'i chwiorydd eu cipio a'u cludo i famwlad eu tad.
Fe ddiflanodd y tri wedi i yntau ddweud wrth eu mam ei fod yn mynd â'r plant i dŷ ei dad yn Y Rhath, a doedd dim cysylltiad gyda'u mam am gyfnod hir wedi hynny.
Wrth ddiolch i bawb sydd wedi helpu'r teulu, dywedodd Safia Saleh bod bywyd wedi bod heriol yn Yemen a'i bod "yn teimlo'n saff nawr gyda fy mam".
"Mae'r sefyllfa yn Yemen oherwydd y rhyfel yn anodd iawn, iawn. Doedd gyda ni mo'r arian i ddod i Gymru felly roedd yn rhaid i Mam helpu.
"Doedd dim arian gyda ni, dim tŷ a dim ysgol i'r plant. Doedd dim diogelwch."
Roedd gan Safia Saleh dystysgrif Brydeinig a dogfennau angenrheidiol ar gyfer ei phlant - Mohammed, 12, Jacqueline, 11, Lucy 10, ac Asalah sy'n ddyflwydd - ond roedd angen fisa ar gyfer ei gŵr, Labib.
Mae'n ddiolchgar, meddai, na fu'n rhaid i'r teulu wahanu er bod ei gŵr "yn fodlon aberthu popeth" er lles eu plant, "hyd yn oed os oedd hynny'n golygu ffarwelio â nhw".
Dywedodd Jackie Saleh: "Rwyf mor, mor hapus i fod gyda fy merch, Safia unwaith eto wedi 34 o flynyddoedd.
"Rwyf bellach hefyd â phedwar o wyrion a mab-yng-nghyfraith. Nes i 'rioed roi'r gorau i frwydro dros fy mhlant.
"Mae popeth wedi mor ingol, ac rwy'n gofyn nawr am lonydd i'n teulu gael dechrau ar ein bywydau o'r newydd."
Dywedodd Ms Hewer bod y teulu'n ddiolchgar i nifer o unigolion yng Nghymru, Llundain a'r Aifft am eu cymorth, gan gynnwys yr AC Neil McEvoy, yr AS Kevin Brennan a'r diweddar brif weinidog, Rhodri Morgan, "a wnaeth popeth o fewn ei allu ar gychwyn yr hanes yma".
Ychwanegodd: "Mae fy mam wedi bod yn rhyfeddol ac yn gryf ac rwy'n falch o'i chael fel mam a bod ei breuddwyd hithau wedi'i wireddu."
Dywedodd Mr McEvoy bod Jackie Saleh "wastad wedi brwydro dros ei merched, hyd yn oed pan oeddan nhw filoedd o filltiroedd i ffwrdd yng nghanol rhyfel. Mae'n dangos bod unrhyw beth yn bosib".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2018