Emiliano Sala: Lansio ymchwiliad i drwyddedau peilot

  • Cyhoeddwyd
Emiliano Sala a David IbbotsonFfynhonnell y llun, Getty Images/David Ibbotson
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd harbwrfeistr Guernsey fod unrhyw obaith o ddod o hyd i Emiliano Sala a David Ibbotson bellach yn "brin iawn"

Mae ymchwiliad i ddarganfod a oedd gan beilot yr awyren oedd yn cludo chwaraewr Clwb Pêl-Droed Caerdydd, Emiliano Sala, y trwyddedau cywir, yn cael ei gynnal.

David Ibbotson oedd yn hedfan yr awyren Piper Malibu pan ddiflannodd dros Fôr Udd am tua 20:30 nos Lun.

Fe ddaeth y gwaith chwilio am yr awyren i ben ddydd Iau.

Dywedodd y Gangen Ymchwilio Damweiniau Awyr eu bod nhw wedi lansio ymchwiliad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r ymchwiliad yn edrych ar bob agwedd o'r hediad gan gynnwys y trwyddedau, yn ôl llefarydd.

Roedd gan Mr Ibbotson, 59 oed, drwydded peilot preifat ac roedd wedi cael prawf meddygol ym mis Tachwedd, yn ôl cofnodion.

Dywedodd yr Awdurdod Hedfan Sifil fod yr awyren wedi ei chofrestru yn yr Unol Dalaethiau, ac yn ôl cyfraith y wlad nid oes hawl gan beilotiaid preifat wneud elw drwy gludo teithwyr.

Chwilio 1,700 milltir sgwâr

Fe wnaeth yr ymosodwr 28 oed o'r Ariannin ymuno â Chaerdydd o Nantes am £15m - y swm uchaf erioed i'r Adar Gleision dalu am chwaraewr.

Dywedodd Heddlu Guernsey bod yr awyren yn hedfan ar uchder o 5,000 o droedfeddi pan gysylltodd y peilot â chanolfan rheoli traffig awyr yn Jersey yn gofyn am ganiatâd i lanio.

Er bod timau wedi bod yn chwilio dros 1,700 milltir sgwâr o Fôr Udd (English Channel), nid oes yna'r un golwg o'r awyren goll na'i theithwyr.

Ffynhonnell y llun, Rafael Álvarez Cacho
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y cyfryngau yn yr Ariannin, roedd Sala wedi anfon neges yn dweud ei fod ar awyren "sy'n edrych fel ei bod am dorri'n ddarnau"

Dywedodd harbwrfeistr Guernsey, David Barker, fod unrhyw obaith o ddod o hyd i Mr Sala a Mr Ibbotson bellach yn "brin iawn".

Mewn cynhadledd i'r wasg yng Nghaerdydd ddydd Iau, fe blediodd chwaer y pêl-droediwr, Romina Sala, i barhau gyda'r chwilio.

'Ysgytwad enfawr'

Dywedodd perchennog Clwb Pêl-droed Caerdydd, Vincent Tan fod y newyddion "wedi rhoi ysgytwad enfawr i bawb" yn y clwb.

"Roedden ni'n edrych ymlaen at roi'r cam nesaf i Emiliano yn ei fywyd a'i yrfa," meddai.

Mae cyn-glwb Sala, Nantes, ynghyd â rhai o chwaraewyr rhyngwladol yr Ariannin - Sergio Aguero a Federicio Fernandez, hefyd wedi galw am barhau gyda'r ymdrech chwilio.

Hyd yma mae tair awyren a phum hofrennydd wedi treulio 80 awr yn chwilio gyda chefnogaeth gan fadau achub a llongau eraill.