Ailddechrau'r chwilio am Sala ar ôl casglu dros €300,000

  • Cyhoeddwyd
Emiliano SalaFfynhonnell y llun, AFP

Mae'r chwilio am Emiliano Sala wedi ailddechrau'n breifat ddydd Sadwrn ar ôl i ymgyrch codi arian gasglu dros €300,000.

Fe ddaeth y gwaith swyddogol o chwilio am ymosodwr Caerdydd, 28, a'r peilot David Ibbotson, 59, i ben ddydd Iau.

Ond mae dau gwch preifat wedi ailddechrau chwilio am yr awyren goll ddydd Sadwrn wedi i nifer o beldroedwyr blaenllaw roi arian i'r ymgyrch.

Fe wnaeth yr awyren Piper Malibu ddiflannu wrth iddi hedfan dros Fôr Udd ar ei ffordd o Nantes i Gaerdydd nos Lun.

Yn y cyfamser, mae'r asiant pêl-droed Willie McKay wedi dweud mai ef drefnodd y daith awyren wnaeth ddiflannu gydag Emiliano Sala arni, ond nad oedd yn rhan o ddewis yr awyren na'r peilot.

80,000 yn arwyddo deiseb

Ddydd Gwener fe wnaeth arlywydd Yr Ariannin Mauricio Macri ymuno â galwadau'r teulu a nifer o beldroedwyr blaenllaw i ailddechrau'r ymgyrch i chwilio am yr awyren.

Mae chwaraewyr fel Kylian Mbappe ac Adrien Rabiot o Paris Saint-Germain, Dimitri Payet o Marseille, Ilkay Gundogan o Manchester City a Laurent Koscielny o Arsenal wedi cyfrannu at yr ymgyrch.

Mae deiseb gafodd ei lansio yn Ffrainc yn galw am ailddechrau'r ymgyrch hefyd wedi casglu 80,000 o enwau.

Bydd chwaraewyr Caerdydd yn gwisgo cennin Pedr ar eu crysau yn eu gêm yn erbyn Arsenal nos Fawrth i ddangos cefnogaeth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl wedi bod yn gadael negeseuon o gefnogaeth i Sala yn Stadiwm Dinas Caerdydd

Mae Mr McKay wedi datgelu negeseuon rhyngddo ef a Sala yn trefnu'r daith.

Un o feibion Mr McKay, Mark, oedd yr asiant oedd yn cynrychioli Nantes yn y cytundeb welodd Sala yn symud i Gaerdydd am £15m yn gynharach yn y mis.

Yn y negeseuon sydd wedi'u gweld gan y BBC, mae mab arall Mr McKay, Jack - sy'n chwarae i Gaerdydd - yn cynnig trefnu'r daith am ddim fel y gallai Sala ddychwelyd i Nantes i gasglu ei eiddo a ffarwelio â chwaraewyr ei gyn-glwb.

Dywedodd Mr McKay bod ei ddau fab wedi sgwrsio â Sala am y trafferthion o deithio i Nantes ar awyren fasnachol.

Ychwanegodd bod Clwb Pêl-droed Caerdydd yn ymwybodol o'r trefniadau.

Dywedodd prif weithredwr y clwb, Ken Choo, eu bod wedi lansio ymchwiliad mewnol i sefydlu'r hyn ddigwyddodd i arwain ar y daith awyren.

'Sioc i ni oll'

Dywedodd Mr McKay: "Fe wnaethon ni gysylltu â Mr David Henderson, sydd wedi ein hedfan ni a nifer o'n chwaraewyr ar draws Ewrop ar nifer o achlysuron.

"Doedden ni ddim yn rhan o ddewis awyren na pheilot, ac rydyn ni eisiau gwneud yn glir unwaith eto nad ni sy'n berchen ar yr awyren roedd Sala arni."

Dywedodd yr asiant hefyd ei fod wedi cwrdd â theulu a ffrindiau Sala i egluro'r trefniadau'r daith.

Ychwanegodd: "Mae'r digwyddiadau trychinebus wedi bod yn sioc i ni oll."

Mae Cangen Ymchwilio Damweiniau Awyr wedi lansio ymchwiliad i'r digwyddiad.