Tracwyr ffitrwydd yn goramcangyfrif y calorïau

  • Cyhoeddwyd
Gwirfoddolwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y prawf yn gofyn i wirfoddolwr wisgo mesurydd ocsigen ar gyfer ymarfer corff er mwyn mesur y calorïau yn gywir

Mae brandiau poblogaidd teclynnau sy'n tracio ffitrwydd yn gallu gorfesur nifer y calorïau sy'n cael eu llosgi, yn ôl profion newydd.

Roedd gwaith ymchwil gan Brifysgol Aberystwyth yn dangos fod nifer y calorïau ar y sgrîn yn gallu bod 50% yn uwch na'r hyn a ddylai fod.

Dangoswyd fod pob teclyn - a oedd yn amrywio rhwng £20 a £80 o ran pris - yn mesur yn anghywir yn ystod arbrofion cerdded a rhedeg.

Tuedd y rhan fwyaf o declynnau, medd Dr Rhys Thatcher, yw gorfesur.

Mae Fitbit wedi dweud bod eu teclynnau nhw yn seiliedig ar "ymchwil eang" - ond dywedodd eraill nad oedd eu teclynnau hwythau "yn rhai meddygol"

Gorfesur wrth gerdded

Roedd y profion, gafodd eu cynnal ar gyfer rhaglen X-Ray BBC Cymru, yn mesur faint o ocsigen roedd gwirfoddolwr yn ei ddefnyddio yn ystod sesiynau 10 munud ar beiriant rhedeg, ac yna yn cymharu'r canlyniad â chanlyniadau tracwyr ffitrwydd.

Dangoswyd fod Fitbit Charge 2, un o'r rhai mwyaf poblogaidd, yn hynod o gywir wrth fesur calorïau wrth redeg (gan amcangyfrif 4% yn is) ond wrth gerdded roedd y teclyn yn gorfesur y calorïau o fwy na 50%.

Roedd teclynnau rhatach - y Letscom HR a'r Letsfit - yn tanfesur y calorïau wrth redeg (y Letsom HR 33% a'r Letsfit 40%).

Disgrifiad o’r llun,

Dr Rhys Thatcher o Brifysgol Aberystwyth oedd yn gyfrifol am y gwaith ymchwil

Ond roedd y ddau declyn yn fwy cywir yn ystod y prawf cerdded.

Fe wnaeth y Letsom oramcangyfrif o 15.7% tra bod y Letsfit ond 2% uwchben y mesur swyddogol.

Dywedodd Dr Thatcher wrth raglen X-Ray: "Os ydych am wybod union nifer y calorïau sy'n cael eu llosgi yn ystod ymarfer, dyw e ddim yn gwneud lot o wahaniaeth pa ddyfais rydych yn ei ddefnyddio gan fod yn rhaid i chi ddadansoddi'r data gyda gofal."

Ychwanegodd nad oedd y diffyg cywirdeb o bwys mawr os mai'r nod oedd defnyddio'r teclynnau i dracio cynnydd.

Mae Fitbit wedi dweud eu bod nhw yn hyderus am berfformiad eu teclynnau.

Dywedodd Letscom a Letsfit bod eu teclynnau nhw angen uchder a hyd cam er mwyn bod yn fanwl gywir, gan ychwanegu nad ydyn nhw yn ddyfeisiadau gwyddonol ond yn hytrach yn rhoi bras amcan.

Mae X-Ray ar BBC 1 Cymru am 19:30 ddydd Llun, 28 Ionawr.