Hunanladdiad: Torcalon tad o golli dau fab

  • Cyhoeddwyd

Mae tad a gollodd dau o'i feibion i hunanladdiad wedi penderfynu siarad yn agored am ei brofiad yn y gobaith y gallai helpu i godi'r tabŵ o gwmpas y pwnc.

"Dwi'n gobeithio bydd rhannu fy stori yn helpu pobl eraill i siarad," meddai Taffy Rotheram, o Uwchmynydd ger Aberdaron. "Os ydi o'n helpu rhywun sy'n meddwl am suicide neu rieni yn fy sefyllfa i, yna mae o werth o."

Cymerodd Clive, mab hynaf Taffy, ei fywyd ei hun ym mis Mawrth 2015. Diwedd mis Tachwedd 2018, gwnaeth ei ail fab, Jamie, yr un peth. Roedd y ddau yn 32 oed pan fuon nhw farw.

Mae Taffy, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Maiwyn neu Bob, yn dweud ei fod dal mewn sioc ac yn gwybod na chaiff o fyth ateb i'r un cwestiwn y mae o eisiau ei wybod, sef 'Pam?'

Disgrifiad,

Taffy sy'n ceisio dygymod â cholli ei ddau fab

Roedd Clive a Jamie yn fechgyn ifanc proffesiynol oedd yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg i Adran Symud Anifeiliad y BCMS - adain o Lywodraeth y Deyrnas Unedig - yn eu swyddfeydd yn Cumbria.

Cafodd Taffy a'i deulu wybod yn ystod y cwest fod Clive wedi bod yn dioddef o iselder, ond doedden nhw ddim yn gwybod dim cyn hynny.

Mae'r rheswm pam fod Jamie wedi lladd ei hun dal yn ddirgelwch, ac er ei fod wedi gadael nodyn, mae dal yn eiddo'r crwner.

Er fod Taffy'n gobeithio y bydd rhannu ei stori yn annog eraill i drafod pwnc mor anodd, mae'n gwybod fod yna lwybr hir o'i flaen wrth geisio galaru am ei feibion.

"Yr unig beth allwch chi wneud ydi meddwl amdanyn nhw, caru nhw, a ffordd yna fyddan nhw'n fyw yn eich pen. A'r ffordd yna dwi'n delio efo fo."

Hefyd o ddiddordeb:

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw