Cynllun atal hunanladdiad i dargedu dynion canol oed

  • Cyhoeddwyd
Dyn

Bydd cynllun newydd i geisio atal hunanladdiad a hunan anafu yng ngogledd Cymru yn targedu dynion canol oed a phobl ifanc fregus.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bod naw person yn ceisio lladd eu hunain am bob un sydd yn gwneud hynny.

Mae'r strategaeth tair blynedd yn gynllun ar y cyd rhwng y bwrdd iechyd, awdurdodau lleol, yr heddlu a grwpiau trydydd sector.

Yn ôl dyn o Wrecsam sydd wedi ceisio lladd ei hun, mae hunanladdiad a hunan anafu yn dal i fod yn "bwnc tabŵ".

'Ynysig ac unig'

Bwriad y cynllun yw gwella triniaeth i bobl sy'n dioddef argyfwng iechyd meddwl a rhoi hyfforddiant i bobl broffesiynol sy'n ymwneud â phobl sydd mewn perygl yn aml.

Cafodd profiadau Richard Birch, sydd wedi ceisio lladd ei hun sawl tro, eu defnyddio wrth lunio'r cynllun.

Dywedodd ei fod yn teimlo'n "ynysig ac unig iawn" pan mae'n meddwl am anafu ei hun, gan deimlo "nad oes neb yn eich caru neu'n poeni amdanoch".

"Gall gwybod am yr hyn sy'n symbylu pan fo unigolion yn teimlo'n anobeithiol a gwneud iddynt deimlo bod eu heisiau a'u hangen helpu'n fawr," meddai.

'Tabŵ'

Ychwanegodd bod hunanladdiad yn dal i fod yn "bwnc tabŵ" a bod ymddygiad sy'n gysylltiedig yn "cael eu gweld yn negyddol ac fel modd o 'geisio sylw'".

"Yn ogystal â chwarae rôl hanfodol mewn atal hunanladdiad a hunan niwed rwy'n meddwl bod gan y cynllun hwn rôl bwysig i'w chwarae mewn codi ymwybyddiaeth," meddai Mr Birch.

Dywedodd Dr Gwenllian Parry, cadeirydd grŵp aml-asiantaethol Atal Hunanladdiad a Hunan Niwed Gogledd Cymru: "Ni all un sefydliad leihau hunanladdiad a hunan niwed ar ei ben ei hun, a bydd angen canolbwynt tymor hir ymroddedig ac ymrwymiad er mwyn parhau i weithio ar y cyd fel bod atal hunanladdiad a hunan niwed yn dod yn fater o bwys i bawb."

Os ydych yn dioddef yn emosiynol ac am gael manylion sefydliadau all gynnig cyngor a chefnogaeth ffoniwch 0800 066 066 (galwad am ddim) i gael gwybodaeth neu cliciwch yma.