Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn ystyried ad-drefnu i arbed £6.5m

  • Cyhoeddwyd
Drindod Dewi Sant

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ystyried cynlluniau ad-drefnu fyddai'n arwain at arbedion o £6.5m er mwyn sicrhau "hyblygrwydd a gwytnwch" y sefydliad yn y dyfodol.

Eisoes mae swyddogion y brifysgol wedi cyfarfod gyda chynrychiolwyr yr undebau ac wedi cynnal cyfarfodydd gyda staff er mwyn "amlinellu'r sefyllfa gyfredol".

Mae gan y sefydliad dri phrif gampws yn ne orllewin Cymru - Caerfyrddin, Llanbedr Pont Steffan ac Abertawe - ynghyd â champws yn Llundain a chanolfannau dysgu yng Nghaerdydd a Birmingham.

Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol y byddai'r adolygiad yn cynnwys:

  • Y strwythur academaidd ar draws yr holl gampysau a chanolfannau;

  • Y cwricwlwm a'r nifer o raglenni a modiwlau a gynigir;

  • Lefelau staffio cyffredinol ar draws y brifysgol.

Yn ôl y llefarydd "mae costau staff craidd y brifysgol ar hyn o bryd yn cyfateb i ymron i 70% o'i refeniw; mae'r ailstrwythuro wedi'i anelu at leihau'r gost hon i fod yn agosach at norm y sector yng Nghymru o 55%".

"Mae potensial gan newidiadau o'r fath i gyflawni gostyngiad o £6.5m er mwyn sicrhau bod gan y brifysgol yr hyblygrwydd a'r gwytnwch i wneud cyfraniad sylweddol i genhadaeth economaidd, ddiwylliannol a ddinesig Cymru yn y dyfodol.

"Ni fyddai'n addas i roi unrhyw sylwadau pellach ar hyn o bryd."

'Pryder i'r staff'

Dywedodd Aled Scourfield, gohebydd BBC Cymru yn y gorllewin, fod cyfrifon diweddaraf y Brifysgol "yn nodi diffyg ariannol o £25m".

"Mae'n ffigwr sylweddol iawn ond dyw'r sefyllfa ddim yn unigryw i'r Drindod... fe fydd yn bryder i'r staff a'r cymunedau hynny sy'n ddibynnol ar y Brifysgol am gyflogaeth," meddai.

Fis Mawrth y llynedd fe wnaeth y brifysgol ofyn i staff ystyried diswyddiadau gwirfoddol.

Dywedodd undeb Unsain fod adroddiadau eu bod yn gobeithio lleihau nifer eu staff tua 10%.

Ar y pryd roedd gan y brifysgol tua 1,700 aelod o staff a mwy na 10,000 o fyfyrwyr.