M4: Llywodraeth Cymru yn 'oedi ar bwrpas'

  • Cyhoeddwyd
Yr m4
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cynlluniau ar gyfer ffordd liniaru'r M4 eu canslo yn 2009 ar ôl i weinidogion ddweud y byddai'n costio £1bn

Mae un o gludwyr mwyaf y Deyrnas Unedig, Owens Group, wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o chwilio am "resymau i beidio adeiladu ffordd liniaru'r M4".

Fe ddywedodd cynrychiolwyr y cwmni o Lanelli, bod y llywodraeth yn "oedi ar bwrpas" a bod angen dod i benderfyniad ar unwaith.

Mae BBC Cymru yn ymwybodol bod Traffig Cymru wedi dweud wrth gludwyr nad oes ganddyn nhw unrhyw wybodaeth am drefniadau'r ffordd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "gweithio'n ddiwyd ar y cynllun".

Prynu amser?

Yn ôl Ian Jarman, rheolwr yn Owens Group ac is-gadeirydd Cyngor Cludo Nwyddau Cymru (WFC), bod angen i benderfyniad gael ei wneud er lles gyrwyr a'r diwydiant cargo.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi llusgo ei thraed am rhy hir. 'Dw i ddim yn meddwl eu bod nhw eisiau adeiladu'r ffordd liniaru, a'u bod nhw'n oedi ar bwrpas.

"Maen nhw'n trio dod o hyd i resymau i beidio adeiladu'r ffordd.

"Mae angen dod i benderfyniad, mae hyn yn atal twf yn economi Cymru," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r penderfyniad ar ffordd liniaru'r M4 yn un o'r heriau sy'n wynebu'r Prif Weinidog.

Cynnig Llywodraeth Cymru ydy adeiladu ffordd rhwng Magwyr a Chas-bach, sydd i'r de o Gasnewydd.

Y nod yw lliniaru problemau traffig ar y draffordd i'r gogledd o'r ddinas, yn enwedig yng nghyffiniau twneli Brynglas.

Mae'r penderfyniad ynghylch symud ymlaen gyda'r gwaith yn nwylo Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ar ôl i Carwyn Jones gamu lawr.

Mewn cyfarfod diweddar gyda chludwyr, dywedodd Traffig Cymru eu bod nhw'n aros i weinidogion ddod i benderfyniad.

Mae'r Llywodraeth eisoes wedi dweud y bydden nhw'n dod i benderfyniad ar ôl iddyn nhw ddadansoddi adroddiad ar y ffordd liniaru yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus a ddaeth i ben fis Mawrth y llynedd.

Roedd cannoedd o bobl mewn protest y tu allan i'r Senedd ym mis Rhagfyr yn erbyn adeiladu'r ffordd.

Yn ôl ymgyrchwyr cadwraethol, fe fyddai adeiladu'r ffordd yn dinistrio harddwch naturiol Lefelau Gwent.

Beth nesaf?

Mae 'na gryn anghytuno ymysg pleidiau gwleidyddol ar y mater, ac fe fydd Aelodau Cynulliad yn pleidleisio ar y mater yn ôl addewid gan y Llywodraeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Traffig Cymru a Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cymryd y camau priodol wrth ddelio â chynllun fyddai'n fuddsoddiad enfawr i Gymru.

"Dyw Traffig cymru ddim yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau gweinidogol, ond fe fydd ganddyn nhw rôl o ran sicrhau manteision y cynllun pe bai'n mynd yn ei flaen."