Cwmni'n gwadu cyfrifoldeb am fil trydan CPD Bangor

  • Cyhoeddwyd
Clwb Pêl-droed BangorFfynhonnell y llun, Clwb Pêl-droed Bangor

Mae cwmni sy'n rhedeg stadiwm Nantporth ym Mangor wedi gwrthod honiadau Clwb Pêl-droed Dinas Bangor mai nhw sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o fil trydan £16,000, sydd heb ei dalu.

Datgelwyd ddechrau'r wythnos fod cyflenwad trydan y stadiwm wedi cael ei atal oherwydd dyledion, ac apeliodd y clwb ar eu cyfranddalwyr am gymorth ariannol.

Honnodd y clwb ei bod yn annheg disgwyl iddyn nhw dalu'r bil i gyd gan mai cwmni Nantporth CIC oedd yn defnyddio'r gyfran fwyaf o'r adnoddau ar y safle.

Cwmni'n taro'n ôl

Mae'r cwmni'n rhedeg y safle, sy'n cynnwys y stadiwm ac adeiladau eraill, yn ogystal â chae pêl-droed 3G y drws nesaf, ar ran y perchnogion, Cyngor Dinas Bangor.

Dywedodd CPD Dinas Bangor mai'r llifoleuadau ar y cae 3G oedd yn gyfrifol am y ganran fwyaf o'r bil trydan.

Ond mae'r cwmni wedi taro'n ôl gan ddweud bod datganiad y clwb yn anghywir, a'u bod wedi cyfrannu at y bil yn barod.

"Mae'r datganiad yn awgrymu mai cyfrifoldeb Nantporth CIC ydi'r dyledion i'r cyflenwyr," meddai'r cwmni ar wefan 'The Bangor Aye'.

"Mae Nantporth CIC wedi gwneud taliadau perthnasol i CPD Dinas Bangor, fel taliadau uniongyrchol neu fel credyd yn lle biliau oedd yn ddyledus i ni gan y clwb, un ai am ddefnydd o'r cae neu am ddyledion rhent."

Yn ogystal â chynnal gemau CPD Dinas Bangor, mae'r stadiwm wedi cael ei defnyddio ar gyfer gemau cartref clybiau lleol eraill mewn cystadlaethau Ewropeaidd.

Mae'r clwb wedi wynebu nifer o broblemau ers disgyn o Uwch Gynghrair Cymru y tymor diwethaf, am fethu cael y drwydded angenrheidiol oherwydd trafferthion ariannol.

Mae cyflenwad dŵr y stadiwm hefyd wedi'i atal oherwydd dyled o £9,000, ac mae arian yn ddyledus i'r chwaraewyr a staff, yn ogystal.

Yn ôl CPD Dinas Bangor, mae'r clwb yn gweithio i sicrhau bod y gêm gartref yn erbyn Gresffordd ddydd Sadwrn yn mynd yn ei blaen.

Mae'r clwb mewn trafodaethau i geisio talu'r dyledion, gan gynnwys sicrhau arian y maen nhw'n dweud sy'n ddyledus iddyn nhw gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Cyfanswm yr holl gredydwyr yw £80,000, yn ôl y clwb.

Trafferthion

Ym mis Rhagfyr cyhoeddodd Vaughan Sports Management (VSM) eu bod yn rhoi'r gorau i redeg y clwb er mwyn gwneud lle i gwmni neu unigolyn dienw gymryd drosodd.

Er nad oes neb wedi cymryd drosodd hyd yma, cyhoeddodd y clwb bod eu cytundeb nawdd gyda VSM wedi dod i ben a'u bod yn chwilio am noddwyr a buddsoddwyr eraill, a'u bod yn "agos iawn" at sicrhau noddwr newydd ar gyfer y stadiwm.

Ychwanegodd Nantporth CIC: "Rydym yn credu ei bod yn anarferol i fusnes o'r math yma fod â dyled mor fawr mewn amser mor fyr, ond rydym yn cydnabod y gallai'r clwb fod yn wynebu materion yn ymwneud â'r ochr reoli ar hyn o bryd.

"Tra'n bod ni'n cydymdeimlo ac yn awyddus i helpu'r clwb, mae'n bwysig bod CIC yn cadw ei ffocws i helpu'r gymuned yn gyffredinol."