Addasu ap dysgu iaith Magi Ann ar gyfer y Gernyweg

  • Cyhoeddwyd
dosbarthFfynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Mae ap Magi Ann wedi cael ei lawrlwytho dros 250,000 o weithiau

Mae cyfres o apiau sy'n helpu teuluoedd i ddysgu Cymraeg wedi ysbrydoli cwmni o Gernyw i addasu'r cynnwys er mwyn annog mwy i ddysgu'r Gernyweg.

Cafodd apiau Cymraeg Magi Ann, a ddyfeisiwyd gan Fenter Iaith Fflint a Wrecsam, eu lansio yn 2016 gyda'r bwriad o helpu plant ifanc a'u teuluoedd i ddysgu Cymraeg.

Yr apiau yw'r ysbrydoliaeth y tu ôl i fersiwn gyfatebol newydd yn y Gernyweg sydd yn cael eu lansio ddydd Iau.

Dywedodd Lowri Jones, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru, eu bod nhw'n "falch iawn i weld yr ap yn cael ei ddatblygu a'i ddefnyddio i hyrwyddo iaith leiafrifol arall".

Bydd cwmni Golden Tree Productions yn lansio ap Magi Ann Kernewek (Cernyweg) mewn seremoni yn Nhruro, Cernyw.

Mae'r fersiwn Gernyweg yn cynnwys 12 o storïau syml i helpu'r genhedlaeth nesaf ddysgu'r iaith.

Mae'r ap rhyngweithiol animeiddiedig yn caniatáu i rieni tapio ar y gair i wybod sut i'w ynganu, ynghyd ag arddangos y cyfieithiad Saesneg.

Bydd Magi Ann Kernewek yn rhan o lansiad ehangach cynllun 'Go Cornish' sydd yn adnodd ar-lein newydd ar gyfer addysgu a dysgu'r Gernyweg.

Ehangu i ieithoedd eraill?

Dywedodd Will Coleman, Cyfarwyddwr Artistig ar ran Golden Tree Productions: "Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda thîm Magi Ann i greu'r ap ar gyfer addysgu plant cyn-oed ysgol, plant meithrin a theuluoedd.

"Mae'r ap hwn, ynghyd â gwefan newydd Go Cornish eisoes yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr yr iaith Gernyweg."

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Rhian Davies, Swyddog Cyfathrebu Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn dangos apiau Magi Ann yn y Gymraeg

Mae ap Cymraeg Magi Ann wedi cael ei lawrlwytho mewn gwledydd cyn belled ag America, yr Ariannin, Tsieina a Japan, ac yn ôl Menter Iaith Fflint a Wrecsam, ieithoedd lleiafrifol eraill ar hyd Ewrop wedi edrych ar y posibilrwydd o ddatblygu apiau tebyg.

Ychwanegodd Rhian Davies, Swyddog Cyfathrebu ar ran y Menter Iaith: "Rydym wedi cael mynegiadau o ddiddordeb ers hynny o fannau eraill yn Ewrop megis Llydaw."

"Does dim pen draw o ran pa mor bell y gall Magi Ann ysbrydoli pobl i gynnal a diogelu ieithoedd lleiafrifol."