Dadlau am bwy ddylai arwain y Ceidwadwyr Cymreig
- Cyhoeddwyd
Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad ddylai arwain y blaid Gymreig, yn ôl ei chadeirydd yng Nghymru.
Does "dim cwestiwn" y dylai'r rheolau newid i gydnabod arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn swyddogol, meddai Byron Davies.
Yn ôl y cyn-Aelod Seneddol, mae 'na "ddealltwriaeth" o fewn aelodaeth y blaid y dylai statws yr arweinydd newid.
Ond mae un AS Ceidwadol Cymreig wedi wfftio'r syniad, gan ei alw'n "wirion".
Yn ogystal, dywedodd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns ei fod yn "hollol relaxed" am y sefyllfa.
Yn dechnegol dydy swydd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ddim yn bodoli, ac o dan reolau'r blaid mae Paul Davies yn arwain grŵp Ceidwadol y Cynulliad yn unig.
Mae gan Ruth Davidson deitl swyddogol Arweinydd y Ceidwadwyr yn Yr Alban.
Dywedodd Byron Davies, Cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, ei "bod yn amser" ystyried a ddylai arweinydd y grŵp yn y Cynulliad arwain y blaid yng Nghymru hefyd.
"Dwi'n meddwl y bydd yn rhaid i hynny ddigwydd yn y man, does dim cwestiwn am hynny. Bydd hynny'n cymryd amser i gyflwyno'r newid drwy'r blaid.
"Fe ddywedodd Paul yn ystod yr ymgyrch arweinyddol yn glir bod hynny'n rhywbeth y bydd yn cael ei roi i'r aelodau ac yna'r aelodaeth fydd yn penderfynu ai dyna'r ffordd maen nhw'n dymuno mynd.
"Pan dwi'n siarad â phobl, aelodau'r blaid, mae 'na ddealltwriaeth bod angen i hynny ddigwydd."
Syniad 'gwirion'
Os byddai arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Brif Weinidog Cymru ar ôl etholiad Cynulliad 2021 y byddai'n "eitha' hurt" os na fyddai'r unigolyn yn arwain y blaid, ychwanegodd Mr Davies.
Fe wrthododd y syniad hefyd y gallai'r blaid Gymreig fod yn fwy dibynnol ar godi arian ei hun os bydd y newid yn digwydd.
Ond mae un aelod seneddol Ceidwadol Cymreig wedi galw'r syniad yn un "gwirion" gan ddweud nad yw'n "apelio".
Ychwanegodd na fyddai'n iawn i arweinydd y blaid yn y Cynulliad wneud penderfyniadau ar faterion sydd heb eu datganoli.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2018
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2018