Y Bencampwriaeth: Bristol City 2-0 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Yn dilyn wythnos o ymadawiadau o ran chwaraewyr yng nghlwb Pêl-droed Abertawe, colli oedd eu hanes o 2-0 oddi cartref yn Bristol City ddydd Sadwrn.
Doedd Daniel James ddim yn rhan o'r garfan a hynny ddeuddydd wedi'r Elyrch wrthod iddo symud i Leeds, ar ôl i'r cynnig ariannol amdano gael ei wrthod ym munudau olaf y ffenestr drosglwyddo.
Fe ddechreuodd Abertawe'n dda gyda Matt Grimes ac Olly McBurnie yn mynd yn agos gyda'i ergydion o fewn y 10 munud agoriadol.
Daeth yr hanner cyntaf i ben gyda'r Elyrch yn mwynhau y rhan fwyaf o'r meddiant.
Munud yn unig fewn i'r ail hanner daeth gôl gyntaf y gêm i'r tîm cartref. Croesiad gan Jamie Paterson ac Andreas Weimann oedd yno i benio'r bêl i gefn y rhwyd o chwe llath.
Daeth yr ail gôl wedi 74 munud. Pass ddeallus gan Weimann i gyfeiriad Callum O'Dowda ac fe ergydiodd yr asgellwr yn gywir i ddyblu mantais y tîm cartref.
Mae'r golled yn golygu fod Abertawe yn cwympo i safle 13 yn y tabl, chwe phwynt o safleoedd y gemau ail gyfle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2019