Tro pedol ar ddysgu Saesneg mewn meithrinfeydd
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud tro pedol ar gynigion yn ei phapur gwyn ar addysg oedd yn awgrymu y dylai Saesneg fod yn bwnc gorfodol mewn meithrinfeydd cyfrwng Cymraeg.
Pan gyhoeddwyd y papur gwyn yr wythnos ddiwethaf, roedd nifer wedi mynegi pryder am y cynnig, gan gynnwys undeb athrawon UCAC.
Bellach mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oedd y geiriad yn y papur gwyn yn adlewyrchu ei bwriad, ac mae wedi cydnabod "goblygiadau anfwriadol" i hynny.
Mae gweinidogion wedi addo sicrhau y bydd unrhyw ddeddf newydd yn ei gwneud hi'n glir y gall addysg 'trochi' yn y Gymraeg barhau.
O dan y cynlluniau a gyhoeddwyd mewn ymgynghoriad yr wythnos ddiwethaf, fe fyddai pwnc Saesneg wedi cael ei gyflwyno i blant tair oed mewn cylchoedd meithrin cyfrwng Cymraeg.
Dywedodd y ddogfen y byddai'n "ddyletswydd ar bob ysgol a meithrinfa i ddysgu Saesneg fel elfen orfodol o'r cwricwlwm newydd i Gymru".
Er fod y Gweinidog dros y Gymraeg, Eluned Morgan, wedi dweud yn y Senedd ddydd Mercher diwethaf y byddai'r dull 'trochi' yn gallu parhau, roedd hynny'n groes i'r hyn oedd mewn du a gwyn ar y papur ymgynghorol.
Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod, ar ôl ailystyried, yn credu nad yw'r datganiad yna yn "adlewyrchu ein bwriad" ac y byddai "goblygiadau anfwriadol" i ysgolion a meithrinfeydd cyfrwng Cymraeg sy'n defnyddio 'trochi' fel modd o addysgu.
Ychwanegodd: "I fod yn gwbl glir, ein cynnig yw y bydd y cwricwlwm newydd yn dal i alluogi ysgolion a chylchoedd meithrin i drochi disgyblion yn llawn yn yr iaith Gymraeg."
Mae undeb UCAC wedi croesawu'r eglurhad. Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Rebecca Williams:
"Roedd unfrydedd a ffyrnigrwydd yr ymateb gan fudiadau a rhieni i'r bygythiad yma'n dangos gwerth y dull trochi fel ffordd o greu dinasyddion dwyieithog. Mae'n profi yn ogystal yr angen i barhau'n wyliadwrus, i gadw llygad barcud ac i leisio barn a herio mewn trefn ddemocrataidd.
"Edrychwn ymlaen nawr at ymateb mewn manylder i'r cynigion fydd yn symud ein cwricwlwm i gyfnod newydd arloesol."
Hygrededd
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Siân Gwenllian AC, llefarydd Plaid Cymru dros Addysg a'r Gymraeg: "Rwyf yn falch o weld bod Llywodraeth Cymru bellach wedi gwrando ar y farn gyhoeddus ac wedi gwneud tro pedol ar y cynlluniau i wneud Saesneg yn elfen orfodol o'r cwricwlwm newydd mewn ysgolion, cylchoedd meithrin a lleoliadau gofal plant.
"Mae'r ffaith fod cymal o'r fath wedi ei gynnwys yn y lle cyntaf yn codi cwestiynau difrifol am hygrededd a chrebwyll Adran Addysg y Llywodraeth hon a'i Gweinidog Addysg. Mae'r llanast yn arwydd o ddiffyg dealltwriaeth sylfaenol am hanfodion dysgu iaith leiafrifol o fewn y llywodraeth.
"Nid yw'n ennyn llawer o ffydd ar gyfer y dyfodol, o gofio'r rhan allweddol mae disgwyl i'r Adran ei chwarae i gynllunio twf addysg cyfrwng Cymraeg fel rhan o nod y llywodraeth i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Hyderaf y bydd y Gweinidog yn bersonol yn ymchwilio i'r hyn aeth o'i le, yn dysgu gwersi at y dyfodol ac yn gwneud yn siwr fod ei holl swyddogion yn gyfarwydd â pholisïau cydnabyddedig dysgu Cymraeg."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2019