Dechrau codi awyren Emiliano Sala o wely'r môr

  • Cyhoeddwyd
Emiliano Sala a David IbbotsonFfynhonnell y llun, Getty Images/David Ibbotson
Disgrifiad o’r llun,

Diflannodd yr awyren yn cludo Emiliano Sala (chwith) a'r peilot, David Ibbotson ar daith o Nantes i Gaerdydd

Mae archwilwyr yn ceisio codi rhan o'r awyren roedd y pêl-droediwr Emiliano Sala a'r peilot David Ibbotson yn teithio arni o wely Môr Udd.

Cafodd yr awyren ei darganfod ddydd Sul, a dydd Llun dywedodd yr AAIB bod eu camerâu wedi gweld corff yn yr awyren, sydd dros 60m dan ddŵr.

Mae'r AAIB (Air Accidents Investigation Branch) wedi bod yn archwilio'r awyren drwy ddefnyddio cerbyd tanddwr wedi ei reoli o bell.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran AAIB eu bod yn ceisio symud y corff o'r awyren, a'u bod yna'n bwriadu "ystyried posibilrwydd codi gweddillion yr awyren".

Cysylltwyd â theuluoedd Emiliano Sala a David Ibbotson cyn dechrau ar y gwaith.

Disgrifiad o’r llun,

Hyd yma, mae'r AAIB wedi bod yn defnydio cerbyd tanddwr sy'n cael ei reoli o bell i archwilio'r awyren

Diflannodd yr awyren, oedd yn cludo pêl-droediwr newydd Caerdydd a'r peilot, wrth hedfan o Ffrainc i Gaerdydd ar 21 Ionawr.

Dywedodd yr AAIB bod fideo cafodd ei ffilmio gan gamera tanddwr yn dangos corff "yng nghanol y gweddillion" a rhan o rif cofrestru'r awyren.

Ddydd Llun, dywedodd David Mearns, a fu'n gyfrifol am arwain y cyrch preifat, fod yna "bosibilrwydd" bod y ddau gorff yn yr awyren.

"Rydym yn ceisio canfod atebion [i'r teuluoedd] ynglŷn â beth ddigwyddodd," meddai.

Bwriad archwilwyr yr AAIB yw symud y corff cyn ceisio codi'r awyren, ac mae disgwyl i'r fenter gymhleth bara rai diwrnodau.

Yn ôl llefarydd ar eu rhan: "Mae amodau llanwol cryf yn golygu ein bod ond yn gallu defnyddio'r cerbyd sy'n cael ei reoli o bell am gyfnodau cyfyngedig bob dydd, a bydd hyn yn golygu bydd pethau'n araf yn datblygu."

Y gobaith wedyn yw cludo'r gweddillion ar gwch i'r DU a cyn eu symud i ganolfan AAIB yn Farnborough, Surrey, i gynnal ymchwiliadau pellach.

Mae'r AAIB wedi dweud eu bod yn bwriadu cyhoeddi adroddiad dros dro ymhen pythefnos.

Maent hefyd wedi dweud nad ydynt yn bwriadu gwneud datganiad pellach nes bydd teuluoedd y ddau ddyn wedi cael gwybod.