Gweddillion awyren Sala: Corff person wedi ei weld

  • Cyhoeddwyd
Llun tanfor

Mae corff un person wedi ei weld wrth archwilio gweddillion yr awyren fechan a ddiflanodd gyda'r pêl-droediwr Emiliano Sala arni, yn ôl corff sy'n ymchwilio i ddamweiniau awyr.

Dywed yr AAIB (Air Accidents Investigation Branch) bod "un person i'w weld yng nghanol y gweiddillion" ar fideo o gamera tanddwr.

Mae'r fideo hefyd yn dangos cefn ochr chwith corff yr awyren Piper Malibu, oedd yn cael ei hedfan gan David Ibbotson, a rhan o'i rhif cofrestru.

Ychwanegodd datganiad yr AAIB eu bod "yn ystyried y camau nesaf, mewn trafodaethau gyda theuluoedd y peilot a'r teithiwr, a'r heddlu".

Cafodd gweddillion yr awyren fechan eu darganfod ym Môr Udd ddydd Sul.

Aeth ar goll wrth deithio rhwng Nantes yn Ffrainc i Gaerdydd ar 21 Ionawr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images/David Ibbotson
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r awdurdodau'n trafod y camau nesaf gyda theuluoedd Emiliano Sala (chwith) a'r peilot, David Ibbotson

Roedd disgwyl i ymchwilwyr yrru llong danfor i gael golwg fanylach ar yr awyren, sydd yn y môr ger Guernsey, ddydd Llun.

Cafodd y gwaith chwilio ei ariannu'n breifat ar ôl i ymgyrch codi arian gasglu dros €320,000.

Roedd arweinydd y cyrch preifat, David Mearns wedi dweud ben bore Llun bod yna "bosibilrwydd" y byddai cyrff y ddau yn y gweddillion, a bod yr ymchwilwyr "yn cynllunio ar gyfer hynny".

Ychwanegodd Mr Mearns bod gweddillion yr awyren wedi eu canfod ar ddyfnder o "tua 63m" o fewn "cwpl o oriau o chwilio".

'Rhan fwyaf ohoni yna'

Dywedodd bod yr awyren wedi ei darganfod drwy sonar cyn i gamerâu gael eu defnyddio i gadarnhau.

"Fe wnaethon nhw weld y rhif cofrestru a'r sioc fwyaf i ni oedd bod y rhan fwyaf o'r awyren yna," meddai.

"Roedden ni'n disgwyl darganfod gweddillion dros y lle, mae hi wedi torri, ond mae'r rhan fwyaf ohoni yna."

Disgrifiad o’r llun,

Mae llong y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr, y Geo Ocean III, yn parhau ar y safle lle cafwyd hyd i'r awyren

Ychwanegodd bod y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr (AAIB) yn gyfrifol am y cam nesaf, ac mae disgwyl ymgais i ddod â'r awyren i'r lan yn y pen draw.

Er i'r chwilio barhau ar wely'r môr dros nos, ni ddaethpwyd o hyd i ddarnau eraill o'r awyren.

Bydd yr AAIB yn cyhoeddi adroddiad cychwynnol i'r achos o fewn mis ers dyddiad y ddamwain.

'Enbyd'

Yn dilyn y darganfyddiad, dywedodd tad Emiliano Sala, Horacio, ei fod "fel breuddwyd, breuddwyd ddrwg" a'i fod yn sefyllfa "enbyd".

Roedd Mr Mearns, oedd mewn cysylltiad â'r teulu, wedi dweud bod y "teulu yn ei gweld hi'n anodd dygymod gyda beth sydd wedi digwydd".

"Rydym yn ceisio canfod atebion iddyn nhw ynglŷn â beth ddigwyddodd."

Fe gyrhaeddodd deulu Emiliano Sala ar ynys Guernsey yn dilyn ei ddiflaniad ac fe aethon nhw i weld yr ardal sydd eisoes wedi cael ei ymchwilio.

Dechreuodd y chwilio preifat ar ôl i ran o glustog sedd awyren ddod i'r lan ar draeth ger Surtainville, Ffrainc.

Roedd teyrngedau emosiynol i Emiliano Sala nos Sadwrn wrth i Glwb Pêl-droed Caerdydd chwarae eu gêm gartref gyntaf ers ei ddiflaniad.

Dywedodd y rheolwr Neil Warnock ei fod yn teimlo bod Sala "gyda'i" dîm yn y fuddugoliaeth dros Bournemouth.