Brwydr addysg yn 'hunllef' i rieni o Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni merch sydd ag awtistiaeth a dyslecsia wedi dweud bod y profiad o herio penderfyniad y cyngor ar ei haddysg anghenion arbennig fel "hunllef".
Aeth Chris a Tina Law â Chyngor Abertawe i dribiwnlys gan nad oedden nhw'n teimlo bod eu merch, Kaitlin, yn derbyn digon o gefnogaeth.
Bu'n rhaid iddyn nhw wario £20,000 ar yr achos a bu'r holl beth yn faich emosiynol mawr ar y ddau, medden nhw.
Dywedodd Cyngor Abertawe bod mynd i dribiwnlys yn gallu rhoi rhieni "dan straen", a'u bod nhw yn trio cydweithio i ddatrys achosion yn fwy lleol.
Mae Kaitlin bellach yn derbyn 15 awr o gymorth un-i-un pob wythnos, a chymorth arbennig llythrennedd a rhifedd, lleferydd ac iaith, a therapi galwedigaethol.
Ond fe gymrodd hi flwyddyn gyfan a £20,000 i Mr a Mrs Law sicrhau hyn trwy fynd â Chyngor Abertawe i dribiwnlys.
"Mi gymrodd hi bopeth oedd gennym ni i fynd drwy'r holl beth," meddai Mrs Law.
"Roedd y gost ariannol yn fawr iawn, ac rydym ni'n hynod o ffodus o fod wedi gallu buddsoddi gymaint ar yr achos.
"Ar adegau, roedd e'n teimlo fel bod neb yn gwrando arnom ni, ac rwy'n cydymdeimlo â'r teuluoedd sydd methu fforddio gwario ar gymorth arbenigol."
Dywedodd Mr Law fod y broses o fynd i dribiwnlys yn rhy gymhleth ac yn "fygythiol".
"Dwi'n gweld pam fod pobl yn rhoi'r ffidil yn y to ac yn peidio mynd i'r tribiwnlys," meddai.
"Roedd yr holl beth fel hunllef."
Er gwaetha'r holl waith, maen nhw'n falch eu bod nhw erbyn hyn yn gallu "sicrhau bod gan Kaitlin yr help i ddatblygu a bod y person 'dyn ni wastad yn gwybod iddi fod".
Proses 'drafferthus'
Mae'r rhan fwyaf o'r rhieni sy'n herio penderfyniad awdurdodau lleol yn Nhribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn llwyddiannus.
Yn ôl ffigyrau o 2016/17, dim ond 5% o apeliadau gafodd eu diddymu.
Ond yn ôl arbenigwyr fel Ed Duff, mae rhieni yn dueddol o beidio mynd â'u hachos mor bell â'r tribiwnlys gan fod y broses yn un "hynod o drafferthus ac annymunol" i rieni.
"Mae'n rhaid nad yw'r gyllideb yna i gefnogi cyfrifoldebau'r cyngor," meddai.
Bwriad cynghorau yw gwario £381m ar addysg anghenion arbennig yn 2018/19.
O 2020 ymlaen, bydd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol Llywodraeth Cymru yn "adnewyddu'r ffocws ar sicrhau bod materion yn cael eu hystyried a'i datrys ar lefel leol er mwyn lleihau'r nifer o apeliadau sy'n cael ei gwneud i'r tribiwnlys".
Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn buddsoddi £20m i sicrhau bod gan weithwyr yn y byd addysg y sgiliau cymwys i weithio gyda disgyblion sydd ag anghenion arbennig.
Gallwch glywed mwy am y stori ar BBC Wales Live, nos Fercher 6 Chwefror am 22:35 ar BBC One Wales.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2019