Rolant Tomos: Beth sy' 'na i de?

  • Cyhoeddwyd
Rolant TomosFfynhonnell y llun, Rolant Tomos

Mae Rolant Tomos o Sain Nicolas ym Mro Morgannwg yn rheolwr prosiect Agora, un o gynlluniau Menter a Busnes sy'n helpu i ddatblygu busnesau bwyd newydd.

Mae hefyd yn rhedeg bragdy Tomos a Lilford sy'n bragu cwrw â chynhwysion anturus. Mae'n dad i ddau o blant, Mali ac Osian. Mae'n mwynhau coginio, er ei bod yn dipyn o sialens weithiau i blesio pawb wrth baratoi bwyd i'r teulu.

Beth sy' i de heno?

Pasta Tomato Sôs.

Pwy sy' rownd y bwrdd?

Mali, Osi (y plant), Hannah (y wraig) a fi.

Beth yw'r sialens mwyaf i ti wrth benderfynu beth sy' i de?

Plesio pawb.

Rolant TomosFfynhonnell y llun, Rolant Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Pasta gyda saws tomato - syml ond effeithiol

Beth yw'r pryd wyt ti'n dipyn o arbenigwr am ei wneud?

Pasta tomato sôs - wedi ei fwyta o leiaf unwaith bob wythnos ers 20 mlynedd - felly mae Mali yn deud mod i 'di goginio fo dros fil o weithiau!

Beth wyt ti'n ei goginio mewn argyfwng?

Dibynnu ar ba fath o argyfwng... mae cyri fel arfer yn datrys argyfyngau moesol, emosiynol a thrychinebau naturiol.

MaliFfynhonnell y llun, Rolant Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Swydd Mali ydi gwneud yn siŵr fod y cynhwysion yn cael eu torri'n gywir

Ydy dy arferion bwyta wedi newid dros y blynyddoedd a pham?

Do, llai o chillis achos y plant. Mwy o fwyd lleol achos fod o'n bwysig.

Beth yw dy hoff bryd o fwyd?

Cregin gleision neu fylchog. Rymp oen i ddilyn.

Beth wyt ti'n ei fwyta er ei fod yn pigo'r cydwybod?

Dim byd - fydda' i byth yn gwrando ar fy nghydwybod.

Rolant TomosFfynhonnell y llun, Rolant Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Peidiwch ag anghofio'r olew...

Beth yw'r peth mwya' anghyffredin ti wedi ei fwyta/goginio?

Coginio - Cyw iâr a banana.

Bwyta - Hufen iâ Foie Gras.

Pa bryd o fwyd sy'n agos at dy galon a pham?

Pasta pys a chig moch Mei, fy mrawd.

Beth yw dy hoff gyngor coginio?

Coginio o'r galon - mae o wastad yn blasu'n well.

Rolant TomosFfynhonnell y llun, Rolant Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Mae Osi (a'r teulu i gyd) wrth eu boddau â'r pryd gorffenedig

Beth yw dy hoff bryd o fwyd erioed?

Pryd diwrnod fy mhriodas. Bwyd, gwin a chwmni hyfryd.

Oes 'na rhywbeth wnei di ddim bwyta?

Tiwna tin - ych a fi!

Hefyd o ddiddordeb: