'Pobl yn anghyfforddus wrth drafod eu hiechyd meddwl'

  • Cyhoeddwyd
Dyn yn dioddef o iselderFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae mwy na hanner pobl Cymru yn teimlo na fedran nhw siarad am broblemau iechyd meddwl

Mae dros hanner pobl Cymru yn teimlo'n anghyfforddus i drafod eu hiechyd meddwl gyda'u ffrindiau a'u teuluoedd, yn ôl gwaith ymchwil gan ymgyrch Amser i Newid Cymru (ANC) ar Ddiwrnod Amser i Siarad.

Ar yr un diwrnod cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bod anghysondebau ar draws y wlad yn y modd y mae gofal a chymorth yn cael eu darparu i rai sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl.

Ymgyrch i roi diwedd ar y stigma ynglŷn â phroblemau iechyd meddwl yw ANC, ac yn ôl eu hadroddiad, roedd 61% yn anghyfforddus i drafod y broblem gyda ffrindiau neu deulu, a dim ond 7% oedd yn hapus i wneud hynny mewn sgyrsiau ar-lein.

Mae ANC yn annog pawb i ddefnyddio Diwrnod Amser i Siarad - ymgyrch ledled y wlad i annog pobl i siarad yn fwy agored am iechyd meddwl - fel cyfle i gael sgwrs gyda ffrindiau a theulu am y pwnc.

Mae'r grŵp yn dweud bod sgwrsio wyneb yn wyneb, dros y ffôn, neu ar gyfryngau cymdeithasol, yn gallu newid bywydau.

Sefydlwyd Diwrnod Amser i Siarad chwe blynedd yn ôl a bob blwyddyn mae'n gofyn i'r genedl gael sgwrs am iechyd meddwl er mwyn helpu i dorri'r stigma sy'n gysylltiedig â'r broblem.

Profiad dioddefwr

Mae Dinah, 22, o Ogledd Cymru, sydd ag AGO (Anhwylder Gorfodol Obsesiynol) a phryder, yn sôn am sut all ddechrau sgwrs o amgylch iechyd meddwl annog eraill i ofyn am gymorth a chefnogaeth:

"Mae sgyrsio yn f'atgoffa nad ydw i ar fy mhen fy hun a bod hi'n iawn i beidio â bod yn iawn.

Mae fy nghyflyrau iechyd meddwl wedi gwneud i mi deimlo'n unig yn y gorffennol, ond ers siarad â'm gymuned gefnogol, agos, sylweddolais fod fy nghyflyrau iechyd wedi creu'r person y rydw i heddiw, ac rwy'n gryfach oherwydd hynny.

Rwy'n credu fod Diwrnod Amser i Siarad yn sbardun i ddod â phobl at ei gilydd, ac rwy'n cefnogi'r ymdrechion yma i bennu'r stigma ynghylch iechyd meddwl."

Ffynhonnell y llun, ANC

Mae digwyddiadau arbennig yn cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau ar draws Cymru ddydd Iau mewn ysgolion a phrifysgolion, byrddau iechyd a busnesau, ac mae pobl yn cael eu hannog i ddefnyddio'r hashtag #TimetoTalk ac #AmseriSiarad wrth drafod materion iechyd meddwl ar-lein.

Dywedodd Karen Roberts, Rheolwr Rhaglen ANC: "Efallai y byddwn ni'n meddwl ein bod ni'n gwybod sut mae ein ffrindiau'n teimlo oherwydd ein bod wedi gweld eu diweddariad diwethaf ar gyfryngau cymdeithasol.

"Fodd bynnag, mewn byd lle mae llawer o bobl ond yn rhannu ein 'darnau gorau' ar-lein, rydym yn annog pawb i ddefnyddio Diwrnod Amser i Siarad fel cyfle i chwalu'r rhwystrau a chael sgyrsiau go iawn ac ystyrlon am eu hiechyd meddwl."

Cyhoeddwyd canlyniadau arolwg o Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol Cymru gan yr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ddydd Iau hefyd.

Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion mewn sawl maes, yn cynnwys:

  • Diffyg eglurder o ran y ffordd y mae pobl yn cael gafael ar Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC), gyda'r angen i gryfhau cysylltiadau rhwng Meddygon Teulu a'r timau.

  • Pryder ynghylch gallu pobl sy'n profi argyfwng iechyd meddwl i gael gafael ar gymorth brys

  • Nifer o bobl ddim yn gwybod gyda phwy i gysylltu y tu allan i oriau

  • Angen gwella systemau

  • Pobl yn gorfod aros am 24 mis mewn rhai ardaloedd i gael gafael ar wasanaethau seicolegol neu therapiwtig.