Emiliano Sala: Crwner yn adnabod corff yn swyddogol

  • Cyhoeddwyd
Gwefan NantesFfynhonnell y llun, FC Nantes
Disgrifiad o’r llun,

Rhoddodd Clwb Pêl-droed Nantes doedd deyrnged i Sala ar eu gwefan ddydd Gwener

Mae Heddlu Dorset wedi cadarnhau mai corff y pêl-droediwr Emiliano Sala gafodd ei godi o weddillion awyren a blymiodd i Fôr Udd fis diwethaf.

Roedd yr Archentwr 28 oed yn teithio o Ffrainc gyda'r peilot David Ibbotson ar ôl ymuno â Chlwb Pêl-droed Caerdydd pan ddiflannodd yr awyren ger Guernsey ar 21 Ionawr.

Dywedodd teulu Sala eu bod nawr yn "gallu galaru am ein mab a'n brawd".

Ddydd Gwener, dywedodd Rheolwr Caerdydd, Neil Warnock ei fod "yn hogyn ofnadwy o ddymunol" gyda photensial i wneud yn dda yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Dyw corff Mr Ibbotson ddim wedi ei ganfod ac mae'r chwilio wedi ei ohirio oherwydd tywydd gwael yn y Sianel.

'Caru ti, bych'

Mewn datganiad dywedodd Heddlu Dorset bod y corff "wedi cael ei adnabod yn swyddogol gan Grwner Ei Mawrhydi Dorset fel corff y pêl-droediwr proffesiynol Emiliano Sala".

Ychwanegodd: "Mae teuluoedd Mr Sala a'r peilot David Ibbotson wedi cael gwybod... a bydd swyddogion arbenigol yn parhau i'w cefnogi."

Ffynhonnell y llun, Instagram
Disgrifiad o’r llun,

"Caru ti, bych": Neges chwaer y pêl-droediwr, Romina Sala ar Instagram

Diolchodd llefarydd ar ran teulu Sala am yr holl gefnogaeth a chydymdeimlad yn ystod "cyfnod fwyaf poenus ein bywydau".

"Roedd gweld yr holl fyd yn cefnogi'r ymchwiliad yn rhywbeth arbennig, ac yn gymorth enfawr.

"Diolch i chi gallwn ni nawr alaru am ein mab a'n brawd."

Ychwanegodd y llefarydd eu bod nhw'n dal i gydymdeimlo â theulu Mr Ibbotson, ac yn gobeithio bod yr awdurdodau yn llwyddo i'w ddarganfod.

Mae chwaer y pêl-droediwr, Romina Sala wedi cyhoeddi neges ar Instagram, gan orffen gyda'r geiriau "Caru ti, bych".

Ysgrifennodd: "Dy enaid di yw fy enaid i, bydd yn disgleirio am byth, gan fy ngoleuo hyd fy oes."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cerbyd tanddwr sy'n cael ei reoli o bell ei ddefnyddio i archwilio'r awyren

Wedi'r cadarnhad swyddogol gan yr heddlu yn hwyr nos Iau, fe ddywedodd arweinydd cyrch preifat i ddod o hyd i weddillion yr awyren, David Mearns ei fod yn falch bod teulu Sala yn cael "rhyw fath o gysur" wedi dros bythefnos o ansicrwydd, a'i fod hefyd yn cydnabod colled anwyliaid Mr Ibbotson.

Cafodd yr awyren ei darganfod ar wely'r môr nos Sul ac fe welwyd y corff yn y gweddillion ddydd Llun.

Fe godwyd y corff o'r awyren nos Fercher, er gwaethaf amodau anodd ym Môr Udd.

Cafodd y gwaith hwnnw ei wneud yn y "modd fwyaf urddasol bosib", yn ôl y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr (AAIB).

'Cwsg yn dawel'

Bu farw Sala wrth deithio i Gaerdydd ar ôl ffarwelio â phawb yn ei gyn-glwb Nantes.

Roedd newydd arwyddo cytundeb i ymuno â'r Adar Gleision ac yn paratoi ar gyfer ei sesiwn hyfforddi gyntaf gyda'i gyd-chwaraewyr newydd.

Fe dalodd Caerdydd ffi o £15m i'w ddenu - y swm mwyaf yn hanes y clwb am unrhyw chwaraewr.

Mewn datganiad swyddogol, dywedodd Nantes eu bod nhw'n teimlo "tristwch ofnadwy" ar ôl colli "ffrind, chwaraewr talentog a chyd-chwaraewr rhagorol", yn ogystal â disgrifio Sala fel arwr fydd "wastad yn rhan o hanes y clwb".

Dywedodd llywydd y clwb, Waldemar Kita, ei fod eisiau anrhydeddu Sala drwy gadw'r crys rhif 9 yn ei enw ef.

Ffynhonnell y llun, Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Neges Twitter amddiffynnwr Caerdydd, Sol Bamba, yn cofio'r ymosodwr a fu farw cyn chwarae'r un gêm i'w glwb newydd

Mae nifer o chwaraewyr amlwg y byd pêl-droed wedi rhoi teyrngedau.

Dywedodd ymosodwr Manchester City a'r Ariannin, Sergio Aguero ar Twitter: "Cwsg yn dawel, Emiliano. Fy nghydymdeimladau i'w ffrindiau a'i deulu."

Ysgrifennodd Mesut Özil o glwb Arsenal: "Does dim geiriau i ddisgrifio pa mor drist yw hyn," gan gydymdeimlo â theuluoedd Sala ac Mr Ibbotson.

Neges syml chwaraewr Paris Saint-Germain, Kylian Mbappe oedd: "RIP EMI".

Wrth gydymdeimlo â theulu'r pêl-droediwr, dywedodd Arlywydd yr Ariannin, Mauricio Macri: "Rydym oll gyda chi."

Dywedodd un o gefnogwyr Caerdydd, Owen John wrth Post Cyntaf bod "pawb yn gobeithio am y gore ond yn realistig yn disgw'l mai rh'wbeth fel hyn fydde'n cloi'r stori".

Ychwanegodd: "Mae'n rhoi pêl-droed a chwaraeon mewn perspectif, mewn ffordd - mae 11 o chwaraewyr yn cicio pêl o gwmpas cae yn hollol amherthnasol o gymharu gyda rh'wbeth fel hyn."