Codi corff o weddillion awyren Emiliano Sala

  • Cyhoeddwyd
Emiliano Sala a David IbbotsonFfynhonnell y llun, Getty Images/David Ibbotson

Mae corff wedi cael ei godi o weddillion yr awyren oedd yn cludo'r pêl-droediwr Emiliano Sala a'r peilot David Ibbotson.

Roedd y ddau yn hedfan dros Fôr Udd ar 21 Ionawr pan ddiflannodd eu hawyren ger ynys Guernsey.

Dywedodd y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr (AAIB) bod contractwyr arbenigol wedi helpu gyda'r gwaith - a wnaed mewn "amgylchiadau heriol".

Ychwanegodd llefarydd bod y broses o godi'r corff wedi ei wneud mewn modd "mor urddasol â phosib".

Mae teuluoedd y ddau ddyn wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf.

'Penderfyniad anodd'

Dywedodd yr AAIB mewn datganiad bod ymdrechion i godi gweddillion yr awyren wedi methu.

Ychwanegodd eu bod nhw'n gorfod gwneud y "penderfyniad anodd" i ddod a'r broses i ben oherwydd y tywydd a'r rhagolygon anffafriol.

Ond mynnodd yr AAIB y byddai'r lluniau a'r ffilm a gafodd eu casglu gan y cerbyd tanddwr yn cynnig "tystiolaeth werthfawr" i'r ymchwiliad.

Mae'r corff a gafodd ei godi bellach wedi cael ei gludo i Portland yn Dorset.

Mae crwner Dorset wedi cael gwybod am y datblygiadau a bydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal yn fuan.

Dyw'r corff dal heb gael ei adnabod yn swyddogol eto.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r AAIB wedi bod yn defnydio cerbyd tanddwr sy'n cael ei reoli o bell i archwilio'r awyren

Roedd y Piper Malibu N264DB yn cludo ymosodwr newydd CPD Caerdydd i Gaerdydd ar ôl iddo deithio 'nol i Nantes er mwyn ffarwelio gyda'r clwb.

Fe wnaeth Caerdydd gytuno i dalu £15m i arwyddo'r Archentwr - y ffi uchaf erioed i'w dalu gan y clwb.

Daeth yr ymchwiliad swyddogol i ben ar 24 Ionawr ar ôl i harbwr feistr Guernsey ddatgan ei bod hi'n "annhebygol iawn" byddai unrhyw un yn cael eu canfod yn fyw.

Ailddechreuodd y gwaith chwilio yn breifat ar ôl i ymgyrch codi arian gasglu dros €320,000 a cafodd gweddillion yr awyren eu darganfod ar wely'r môr ddydd Sul.