Nantes yn mynnu taliad gan Gaerdydd am Emiliano Sala

  • Cyhoeddwyd
Emiliano SalaFfynhonnell y llun, AFP

Mae Clwb Pêl-droed Nantes wedi mynnu bod CPD Caerdydd yn talu'r ffi o £15m am yr ymosodwr Emiliano Sala.

Roedd Sala a'r peilot David Ibbotson yn hedfan dros Fôr Udd ar 21 Ionawr pan ddiflannodd eu hawyren ger ynys Guernsey.

Fe wnaeth Caerdydd gytuno i dalu £15m i arwyddo'r Archentwr - y ffi uchaf erioed i'w dalu gan y clwb.

Mae'r Adar Gleision wedi gohirio'r taliad cyntaf tan eu bod nhw'n hapus gyda'r holl ddogfennaeth berthnasol.

Y gred yw bod Nantes yn bygwth cymryd camau cyfreithiol os nad ydynt yn derbyn taliad o fewn deg diwrnod.

Dywedodd ffynhonnell o Gaerdydd eu bod nhw am barchu'r cytundeb, ond dim tan bod "y ffeithiau i gyd wedi eu cadarnhau".

Ychwanegodd eu bod nhw wedi synnu fod Nantes wedi hawlio'r arian tra bod ymgais ar waith i geisio codi'r awyren o wely'r môr.

Mae BBC yn credu fod disgwyl i'r ffi gael ei dalu fesul dipyn dros gyfnod o dair blynedd.

Mae gan Glwb Pêl-droed Bordeaux hefyd hawl i ran o'r ffi ar ôl i Sala adael y clwb am Nantes yn 2015.