Y byd pêl-droed yn rhoi teyrnged i Emiliano Sala

  • Cyhoeddwyd
Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Bu munud o dawelwch cyn y gêm rhwng Southampton a Chaerdydd

Mae'r byd pêl-droed wedi bod yn rhoi teyrngedau i Emiliano Sala, ar ôl cadarnhad ddydd Iau fod corff y peldroediwr wedi ei ganfod mewn gweddillion awyren.

Cafodd rhwymynnau braich du eu gwisgo gan chwaraewyr pob tîm yn yr Uwch Gynghrair ddydd Sadwrn.

Roedd chwaraewyr Caerdydd yn gwisgo rhwymynnau baich a chennin Pedr ar eu crysau wrth iddynt herio Southampton yn Stadiwm St Mary's.

Cyn y gêm honno bu munud o dawelwch i gofio am Emiliano Sala.

Fe wnaeth Cynghrair Bêl-droed Lloegr hefyd ddweud y byddai rhwymynnau braich du yn cael eu gwisgo gan chwaraewyr ym mhob gêm gynghrair y penwythnos hwn.

Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Caerdydd yn cofio am Emiliano Sala cyn dechrau'r gêm yn erbyn Southampton

Southampton Caerdydd

Dywedodd perchennog Clwb Pêl-droed Caerdydd, Vincent Tan, mewn datganiad: "Hoffwn rannu fy nghydymdeimlad enbyd gyda theulu Emiliano Sala.

"Byddai'r dyn ifanc yma wedi bod yn llwyddiant, a dwi'n siŵr y byddai ef wedi bod yn hapus iawn yn sefydlu cartref newydd yng Nghaerdydd.

"Bydd ei enaid wastad yn fyw yn ein calonnau. Rydyn ni'n teimlo'r golled yn ofnadwy, ond wrth gwrs, y teulu sydd yn cario'r baich mwyaf ar amser fel hyn."

Ychwanegodd fod y clwb wedi cynnig talu i gludo'i gorff i'r Ariannin.

Bu farw Sala wrth deithio i Gaerdydd ar ôl ffarwelio â phawb yn ei gyn-glwb Nantes yn Ffrainc.

Hefyd ar fwrdd yr awyren oedd y peilot David Ibbotson o Sir Lincoln.

Mae Nantes wedi penderfynu cadw'r crys rhif 9 yn ei enw Sala, ac yn ôl eu rheolwr Vahid Halilhodzic, mae'r Archentwr wedi gadael "hoel tragwyddol" ar hanes y clwb.

Mewn datganiad swyddogol ddydd Gwener, dywedodd Nantes eu bod yn teimlo "tristwch ofnadwy" ar ôl colli "ffrind, chwaraewr talentog a chyd-chwaraewr rhagorol".

Bydd munud o gymeradwyaeth yn cael ei gynnal ym mhob gêm ym mhrif gynghreiriau Ffrainc dros y penwythnos.

Gwefan NantesFfynhonnell y llun, FC Nantes
Disgrifiad o’r llun,

Rhoddodd Clwb Pêl-droed Nantes deyrnged i Sala ar eu gwefan ddydd Gwener

Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Gwener dywedodd rheolwr Caerdydd, Neil Warnock y bydd teulu Emiliano Sala yn cael "cysur" a "hedd" o ganlyniad i ddarganfod ei gorff a'i adnabod yn swyddogol.

Ychwanegodd ei fod "yn fachgen ofnadwy o ddymunol" gyda'r potensial i wneud yn dda yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Mae nifer o chwaraewyr amlwg y byd pêl-droed wedi rhoi teyrngedau gan gynnwys Kylian Mbappe, Mesut Ozil ac Sergio Aguero.

Roedd Sol Bamba, Nathaniel Mendez-Laing ac Oumar Niasse ymysg yr Adar Gleision i gydymdeimlo â'r teulu ar wefannau cymdeithasol.

Yn y cyfamser, mae teulu Mr Ibbotson, peilot yr awyren, yn ceisio codi £300,000 er mwyn dod o hyd i'w gorff.

Mae neges ar safle codi arian ar y we yn dweud: "Plîs allwch helpu i ddod a David Ibbotson adref a helpu ni i ffarwelio yn iawn.

"Fel teulu rydym yn dibynnu ar garedigrwydd pobl i helpu ni godi'r arian er mwyn ein cynorthwyo i ddod o hyd i dad, gŵr a mab cariadus," meddai'r neges.

"Fel teulu rydym yn ceisio dod i delerau gyda'r trasiedi a cholled dau ddyn anhygoel.

"Mae clywed fod y chwilio wedi dod i ben am gyfnod amhenodol, wedi gwneud yr amser trasig yma yn anoddach."