Warnock: 'Roedd Emiliano Sala'n barod am her o'i flaen'
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr Clwb Pêl-droed Caerdydd yn dweud y bydd teulu Emiliano Sala yn cael "cysur" a "hedd" o ganlyniad i ddarganfod ei gorff a'i adnabod yn swyddogol.
Fe gadarnhaodd Neil Warnock ddydd Gwener bod y clwb wedi cynnig talu i gludo'i gorff i'r Ariannin.
Hefyd mae'r Adar Gleision wedi gofyn am gynnal munud o dawelwch cyn eu gêm ddydd Sadwrn yn Southampton, a bydd chwaraewyr yn gwisgo rhwymynnau braich a chennin pedr ar eu crysau.
Dywedodd Warnock ei fod "yn hogyn ofnadwy o ddymunol" gyda photensial i wneud yn dda yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Roedd Warnock yn siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf ers i Grwner Dorset gadarnhau nos Iau mai corff yr ymosodwr 28 oed gafodd ei godi o weddillion awyren fechan ar wely Môr Udd.
Mae'r peilot David Ibbotson yn dal ar goll wedi i'r awyren ddiflannu yn ardal Ynysoedd y Sianel ar Ionawr 21.
'Roedd ganddo bethau i'w brofi'
Roedd Sala newydd ymuno â Chaerdydd o Nantes am ffi o £15m - y swm mwyaf yn hanes Caerdydd - ond bu farw ar y daith o Ffrainc cyn chwarae'r un gêm i'w glwb newydd
Dywedodd Warnock: "Ro'n i wastad yn meddwl bod e'n chwaraewr sgryfflyd... a fydde'n sgorio 10 i 15 o goliau bob blwyddyn ac hefyd yn gweithio'n galed dros y tîm, yn ticio bob blwch o ran yr hyn rydw i'n chwilio amdano mewn chwaraewr.
"Ac ar yr un pryd roedd e'n hogyn ofnadwy o ddymunol.
"Doedd e ddim yn llanc ifanc, roedd yn ei anterth, roedd ganddo bethau i'w profi. Roedd yn chwarae mewn comfort zone yn Ffrainc, ond roedd wedi gwella bob blwyddyn yn y blynyddoedd diwethaf ac ro'n i'n meddwl bod e'n barod.
"Roedd e bach yn bryderus ynghylch yr her o'i flaen ond roedd yn gwybod bod rhaid ceisio cymryd y cam hwnnw.
"Ro'n i'n meddwl galle fe sgorio goliau yn yr Uwch Gynghrair, roedd yntau hefyd a nes i ddeud wrtho 'mae'n haws, debyg, ymuno â Chaerdydd a ninnau'n grŵp clos o hogia'."
'Byth yn anghofio pethau fel hyn'
Roedd Warnock wedi dweud yn y dyddiau wedi diflaniad yr awyren ei fod wedi ystyried ymddiswyddo, ond dywedodd ddydd Gwener bod "yn rhaid" troi ei feddwl yn ôl i bêl-droed ac ymdrechion yr Adar Gleision i aros yn yr Uwch Gynghrair.
Doedd e ddim am wneud sylw am alwad Nantes i Gaerdydd dalu'r ffi am y chwaraewr.
Mae'n "ddiolchgar", meddai, bod cadeirydd a phrif weithredwr Caerdydd, Mehmet Dalman a Ken Choo, yn delio â'r mater hwnnw er mwyn i yntau ganolbwyntio ar faterion ar y cae.
Mae'r gefnogaeth i'r clwb ac i deulu Sala o bob cwr o'r byd "yn rhyfeddol", meddai, ond mae teulu Mr Ibbotson "yn dal mewn uffern".
"Dydach chi byth yn anghofio pethau fel hyn," meddai. "Rydych chi'n gwthio pethau i gefn eich meddwl, pethau arbennig yn ymwneud â chyfarfod Emiliano."
"Mae chwaraewyr wedi cydio yn hynny... nawr mae gyda ni 13 gêm mae'n rhaid eu curo."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2019