Heddlu arfog yn chwilio am ddau ddyn yng Nhgeredigion
- Cyhoeddwyd

Parhau mae'r gwaith o chwilio am ddau ddyn yng Ngheredigion yn dilyn digwyddiad lle gafodd plismon ei anafu ddydd Sadwrn.
Aed â'r plismon i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, ar ôl i ddau ddyn ymosod arno ar ôl iddo stopio eu car yn Synod Inn, ger Cei Newydd.
Dywed Heddlu Dyfed-Powys i'r heddwas gael ei gymryd i'r ysbyty gyda chleisiau a man anafiadau.
Ar ôl yr ymosodiad, tua 13:15 ddydd Sadwrn, fe wnaeth y ddau ddyn ffoi ar droed.
Bu'r heddlu, yn cynnwys uned arfog a hofrennydd, yn chwilio amdanynt.
Mae'r ddau yn wyn, un o gorff mawr ac yn gwisgo jeans a crys-T du, a'r llall yn gwisgo siwt boiler gwyn neu felyn.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd y prif uwch arolygydd Pete Roderick: "Mae yna le i gredu y bydd y ddau yma yn ceisio cael gafael ar gerbyd er mwyn gadael yr ardal, ac rydym yn galw ar bobl i gadw eu cerbydau, ac allweddi eu cerbydau, yn ddiogel.
"Rydym yn apelio ar unrhyw un sy'n gweld dynion yn gweithredu yn amheus - o bosib yn trio mynediad i geir neu yn croesi tir ffarm ar droed - i ffonio 999 ar unwaith."