Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Yr Eidal 15-26 Cymru
- Cyhoeddwyd

Josh Adams yn sgorio cais cyntaf Cymru
Mae Cymru wedi llwyddo i ddod yn gyfartal â'u record o ennill 11 o gemau yn olynol - ond doedd y fuddugoliaeth yn Rhufain ddim yn un gwbl argyhoeddedig.
Roedd Warren Gatland wedi gwneud 10 o newidiadau o'r tîm wnaeth guro Ffrainc.
Cais yr un i Josh Adams ac Owen Watkin, ac 14 pwynt o esgid Dan Biggar wnaeth sicrhau'r fuddugoliaeth.
Braam Steyn ac Edoardo Padovani groesodd y llinell i'r Eidal.
O'r chwaraewyr newydd, mae'n anodd gweld fod nifer wedi gwneud digon o argraff i haeddu lle yn erbyn Lloegr yn y gêm nesaf.
Mwy o feddiant
Ond fe wnaeth y blaenasgellwr Thomas Young ennill clod yn ei ymddangosid cyntaf yn y crys coch.
Dyma'r tro cyntaf i Jonathan Davies fod yn gapten ar y tîm.
Yn yr hanner cyntaf aeth Cymru ar y blaen drwy giciau Biggar wrth iddynt sicrhau goruchafiaeth yn y sgrym a mwy o feddiant na'r Eidal.
Ond er gwaetha'r pwysau o du Cymru, yr Eidal sgoriodd y cais cyntaf gyda Braam Steyn yn croesi a bu'n rhaid i Gymru fodloni ar fantais o 12-7 ar yr egwyl.

Owen Watkin sgoriodd ail gais Cymru
Daeth cais cyntaf Cymru ar ôl i Liam Williams fylchu drwy'r amddiffyn a bwydo Adams.
Daeth Davies hefyd yn agos, ond dyfarnwyd fod y bâl wedi mynd ymlaen o'i ddwylo cyn croesi.
Yn y diwedd daeth yr ail gais wrth i'r canolwr Watkin fanteisio ar gic gelfydd gan Gareth Anscombe ddaeth i'r maes yn lle Biggar.
Fe fydd Cymru yn curo eu record o fuddugoliaethau yn olynol, record sy'n dyddio nôl i 1910, pe bai nhw'n curo Lloegr yng Nghaerdydd ar 23 Chwefror.