Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Ffrainc 19-24 Cymru

  • Cyhoeddwyd
George North yn dathluFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Cymru wedi dechrau eu hymgyrch ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni gyda buddugoliaeth hynod gyffrous yn erbyn Ffrainc.

Ar ôl bod 16 pwynt ar ei hol hi ar hanner amser, brwydrodd tîm Warren Gatland 'nôl i drechu'r tîm cartref 19-24.

Roedd dau gais gan George North ac un gan Tomos Williams yn ddigon i ennill yr ornest i'r ymwelwyr.

Mae Cymru wedi trechu Ffrainc saith gwaith allan o'r wyth gêm ddiwethaf, gan gynnwys tair buddugoliaeth o bedair ym Mharis.

Dechreuodd y Ffrancwyr ar dân o flaen torf swnllyd y Stade de France, gan lwyddo i ddarganfod sawl bwlch yn amddiffyn y crysau cochion.

Daeth y cais cyntaf wedi pum munud o chwarae gyda'r wythwr, Louis Picamoles, yn camu heibio Gareth Anscombe a Liam Williams er mwyn trosi i'r dde o'r pyst.

Roedd tywydd garw Paris yn amlwg yn cael effaith ar gicio'r ddau dîm, gyda'r pum ymgais gyntaf at y pyst yn cael eu methu gan Anscombe a Morgan Parra.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y dyfarnwr o'r farn bod Liam Williams wedi taro'r bêl ymlaen o'i ddwylo

Roedd Cymru yn credu eu bod nhw wedi unioni'r sgôr ar ôl gwaith ardderchog gan Liam Williams lawr yr asgell chwith, ond cafodd y bêl ei tharo yn ei blaen o ddwylo'r cefnwr.

Daeth ail gais i'r tîm cartref wedi pas gelfydd gan Arthur Iturria i ddwylo'r asgellwr Yoann Huget a redodd yn glir am y gornel.

Fe wnaeth Parra ychwanegu triphwynt o gic gosb yn ogystal â chic ardderchog o'i ddwylo er mwyn ei gwneud hi'n 16-0 i Ffrainc ar yr hanner.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yoann Huget yn dathlu ail gais y Ffrancwyr

Digon araf oedd dechreuad Cymru i'r ail hanner hefyd, ond wedi cyfnod hir o feddiant fe lwyddodd Tomos Williams i daro 'nôl i'r ymwelwyr.

Fe wnaeth Josh Adams fanteisio ar amddiffyn llac gan Ffrainc cyn amseru'r bas i Williams yn berffaith.

Pum munud yn ddiweddarach daeth ail gais i'r Cymry ar ôl camgymeriad ofnadwy gan Huget.

Wrth geisio codi'r bel yn dilyn cic ddofn, fe lithrodd yr asgellwr profiadol gan alluogi North i gydio yn y bêl a neidio dros y llinell gais.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Aeth Cymru ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm diolch i gic gosb yr eilydd, Dan Biggar.

Ar ôl colli'r fantais dechreuodd Ffrainc reoli'r chwarae unwaith eto, gyda'u blaenwyr corfforol yn gwthio amddiffyn Cymru i'r eithaf.

Y blaenwyr hynny oedd yn gyfrifol am ennill cig gosb i'r tîm cartref wedi 70 munud, gan roi cyfle euraidd i Camille Lopez roi Ffrainc yn ôl ar y blaen.

Ond gydag wyth munud yn weddill, fe wnaeth camgymeriad arall gan Sebastien Vahaamahina alluogi North i ryngipio, a rhedeg yn glir am y llinell gais o 60m.

Er i Ffrainc barhau i bwyso yn eiliadau olaf y gêm, roedd amddiffyn Cymru yn ddigon cadarn i selio'r fuddugoliaeth.