Chwe Gwlad: Merched Yr Eidal 3-3 Merched Cymru

  • Cyhoeddwyd
Elinor SnowsillFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Elinor Snowsill ar rediad

Fe wnaeth merched Cymru frwydro yn galed wrth sicrhau canlyniad cyfartal yn Lecce.

Mewn gêm lle'r oedd amddiffyn y ddwy wlad yn meistroli cic gosb Robyn Wilkins roddodd Cymru ar y blaen ar ôl 30 munud.

Methodd yr un o'r ddau dîm ac elwa ar eu cyfleoedd ac wedi awr o chwarae roedd y sgôr yn gyfartal, cic gosb y canolwr Michaela Sillari yn sgorio pwyntiau'r Eidal.

Yn hwyr yn y gêm roedd yna symudiad unigol bendigedig gan yr asgellwraig Jasmine Joyce - ac er iddi groesi'r llinell ar ôl rhedeg tri chwarter y cae roedd y bêl wedi mynd 'mlaen o bas Elinor Snowsill.

Daeth cyfle i'r Eidal gipio'r fuddugoliaeth ar ddiwedd y gêm, ond aeth cic Sillari heibio'r postyn.