Cyhuddo cyn-brifathro o droseddau rhyw

  • Cyhoeddwyd
David Watkin Bundock
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd David Watkin Bundock ei anrhydeddu yn 2004 ag MBE am ei wasanaethau i addysg

Bydd cyn-brifathro ysgolion yng Ngheredigion yn ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe ym mis Mawrth i wynebu pedwar cyhuddiad o droseddau rhyw.

Cyhuddwyd David Watkin Bundock, 74 oed, o geisio cwrdd â bachgen dan 16 oed yng Nghaerfyrddin, ac o geisio cyfathrebu yn rhywiol â bachgen dan 16 oed yng Nghaerdydd.

Hefyd mae Mr Bundock yn wynebu dau gyhuddiad o fod â lluniau anweddus o blant yn ei feddiant.

Honnir bod y troseddau wedi digwydd rhwng Hydref 2017 a mis Ionawr 2019.

Cafodd Mr Bundock, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, ei anrhydeddu yn 2004 ag MBE am ei wasanaethau i addysg. Bu'n archwilydd lleyg ar gyfer Estyn hefyd.

Dyw'r cyhuddiadau ddim yn ymwneud â'i gyfnod fel prifathro neu swyddog.

Yn ystod gwrandawiad yn Llys Ynadon Llanelli doedd dim ple ganddo, ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 11 Mawrth.