Meddygfa'n 'gwrthod' darparu meddyginiaeth i ferch 9 oed
- Cyhoeddwyd
Mae teulu merch naw oed sy'n dioddef o ffitiau epileptig wedi dweud fod meddygfa ym Machynlleth wedi dweud na fyddan nhw'n gallu darparu meddyginiaeth angenrheidiol iddi mwyach am resymau iechyd a diogelwch.
Fe dderbyniodd teulu Seren Hughes alwad ffôn yn hwyr nos Lun yn dweud y byddai'r feddygfa'n gallu rhoi gwerth mis o feddyginiaeth iddi, ond yna y byddai'n rhaid mynd i rywle arall i'w gael.
Mewn datganiad ar ran y feddygfa, mae Iechyd Dyffryn Dyfi wedi ymddiheuro am y dryswch, gan gynnig cwrdd â'r teulu i dawelu eu hofnau.
Mae Seren, sydd dan ofal arbenigwr yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, yn cael pedwar math o gyffur bob dydd er mwyn lleihau difrifoldeb ei ffitiau.
Dywedodd meddyg o Feddygfa Machynlleth wrth y teulu y bydd rhaid iddyn nhw fynd i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth neu ysbytai yng Nghaerdydd neu Lundain i gael y feddyginiaeth iddi.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Addysgu Powys eu bod nhw'n gobeithio y byddai modd i'r teulu a'r feddygfa "ddatrys y sefyllfa yn gyflym".
'Ddim yn saff'
Dywedodd tad Seren, Hefin Hughes, wrth raglen Taro'r Post BBC Radio Cymru: "Gethon ni'r phone call hyn am tua 21:05 neithiwr o syrjeri'r doctor ym Machynlleth, ishe trafod prescripsiwn Seren, ac yn dweud na fydden ni'n gallu cael y medication drwy syrjeri Machynlleth dim mwy.
"Achos bod achos Seren mor complex, dyna oedd y gair defnyddiodd hi, 'efo'r medication hyn, doedden nhw ddim yn teimlo bod e'n saff bo nhw'n handio [fe] allan, a doedden nhw ddim yn siŵr iawn beth oedden nhw'n handio allan", meddai Mr Hughes.
"Maen nhw'n ddigon bodlon i ni bigo'r meddygyniaethau o'r syjeri yn Machynlleth, ond bod e'n gorfod dod drwy un ai Bronglais, Caerdydd neu Llundain."
Yn ôl ei theulu mae Seren wedi bod ar gyffuriau i leihau difrifoldeb y ffitiau epileptig ers ei bod hi'n bythefnos oed.
Mae ei meddyginiaeth yn newid yn aml yn dibynnu ar beth mae niwrolegwyr yng Nghaerdydd ac yn Llundain yn penderfynu yw'r ffordd orau i drin ei chyflwr.
Ychwanegodd Mr Hughes: "Mae'n rhaid iddi gael e, mae'n rhaid iddi gael y stwff 'ma, does dim stopio i gael."
'100 o seizures bob dydd'
"Mae'r meddyginiaethau yn lleihau nifer y seizures mae hi'n eu cael bob dydd... amser oedd hi ar ei gwaethaf, cyn iddi gael y llawdriniaeth diwetha' ar yr ymenydd, o'dd hi'n cael tua 100 o seizures bob dydd.
"O'dd hi'n cael gwahanol fath o seizures - o'dd un yn drop seizure, lle 'se hi'n cwympo i'r llawr.
"'Da ni 'di trio sawl math o anti-epileptics, ond mae'r concoction mae hi arno ar hyn o bryd - pedair gwahanol fath o meddyginiaeth - hwn yw'r control gore da ni 'di gael so far o'r seizures hyn.
"Mae'n dipyn o job rhoi y medication yma iddi i gyd, ond os nad ydy hi'n ei gael mae'n ta-ta arni."
"Pan oedden ni'n Llundain, pan oedden ni'n trafod y llawdiniaeth diwetha' ga'th hi, o'dd y meddygon yn ofni bod hi'n risg uchel o be' ma' nhw'n ei alw'r SDE, sef sudden death in Epilepsy, lle ma pobl yn mynd i'r gwely yn nos a chael seizure anferth yn eu cwsg a ddim yn codi bore wedyn."
Yn ôl Mr Hughes mae ei wraig, Ruth, wedi siarad gyda'r ymgynghorydd yng Nghaerdydd fore Mawrth ac wedi cael gwybod y bydd prescripsiwn frys yn cael ei anfon atyn nhw.
Ond pryder y teulu ydy nad ydyn nhw'n gwybod am ba hyd y bydd y trefniant hwnnw'n parhau.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, sydd a chyfrifoldeb dros feddygfeydd teulu ym Mhowys: "Ein gobaith ddiffuant yw y gellir datrys y materion a'r pryderon hyn yn gyflym rhwng yr ymarferydd meddygol a'r teulu.
"Fodd bynnag, os nad yw hynny'n bosib, mae ein tîm pryder cleifion yma i helpu teuluoedd i ddatrys unrhyw bryderon a allai fod ganddynt gyda'u practis meddyg teulu lleol."
Ymateb llawn
Ddydd Mercher daeth datganiad i'r BBC gan Iechyd Dyffryn Dyfi ar ran y meddygfa, sy'n cydnabod fod gwersi i'w dysgu o'r dryswch yn yr achos yma.
Dywedodd y datganiad: "Rydym wedi ymrwymo i sicrhau fod pob claf yn parhau i dderbyn y meddyginiaeth angenrheidiol. Ni fyddai unrhyw glaf yn cael eu gadael heb y prescripsiwn sydd ei angen arnynt."
Aiff ymlaen i egluro fod gofal claf yn golygu adolygiadau cyson o'r cyffuriau sy'n cael eu defnyddio, a gyda rhai cyffuriau bod angen prescripsiwn gan arbenigwr ysbyty yn hytrach na gan meddygfa leol.
"Yn yr amgylchiadau yma, mae'r practis yn cymryd camau i sicrhau fod cleifion yn cael gwybod am unrhyw newidiadau sydd eu hangen gan gynnwys gweithio gydag ymgynghorwyr ysbyty fel sy'n briodol i sicrhau fod y cleifion yn parhau i dderbyn cyflenwad o'r cyffur y maen nhw eu hangen.
"Mae'n flin gennym yn yr achlysur yma fod newidiadau wedi achosi dryswch ac rydym wedi ymrwymo i ddysgu gwersi o hyn.
"Mae'r feddygfa wedi cysylltu gyda'r teulu er mwyn cynnig cwrdd i drafod eu pryderon. Gobeithio y bydd hyn yn gyfle i dawelu eu meddyliau y bydd meddyginiaethau yn parhau i gael eu rhoi, a bod modd eu casglu o'r fferyllfa leol."