Treth Cyngor Powys i godi 9.5%?

  • Cyhoeddwyd
Powys

Mae trethdalwyr Powys yn wynebu cynnydd o 9.5% yn nhreth y cyngor yn dilyn cyfarfod o gabinet y sir.

Fe gytunwyd ar gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, sy'n golygu toriadau o £12m yn ogystal â'r trethi uwch.

Bydd y cyngor llawn yn cael cyfle i bleidleisio ar y cynlluniau ar 21 Chwefror, cyn penderfyniad terfynol ym mis Mawrth.

Fe allai'r gyllideb arwain at gynnydd mewn biliau o tua £9 y mis i breswylwyr eiddo Band D.

Dywedodd arweinydd y portffolio cyllid, y Cynghorydd Aled Davies: "Mae'r gyllideb yn trosglwyddo arian ychwanegol i gyllideb ysgolion, ac yn amddiffyn y buddsoddiad mewn gwasanaethau plant ac oedolion.

"Bydd hyn yn helpu'r cyngor ddatblygu ein blaenoriaethau ar gyfer 2025.

"Er mwyn cau'r bwlch rydym wedi gwneud nifer o arbedion ar draws y Cyngor."

Yn ôl Prif Weithredwr dros dro y cyngor Mohammed Mehmet: "Mae'n bwysig pwysleisio bod, yn ôl pob tebyg, pob awdurdod lleol yng Nghymru yn llunio cyllideb anodd a sawl un â risgiau sylweddol.

"Felly dyw'r hyn sydd yn cael ei argymell ym Mhowys ddim yn wahanol iawn i weddill Cymru."