Y BBC 'ddim am wario mwy' ar greu archif ddarlledu

  • Cyhoeddwyd
tapiau archif BBC

Mae BBC Cymru wedi dweud wrth ACau nad yw'r gorfforaeth yn gallu gwario rhagor o arian i helpu rhedeg archif ddarlledu genedlaethol.

Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi dweud na fydd Llywodraeth Cymru'n rhoi cyllid tuag at y cynllun, gan alw ar y BBC i gynyddu ei gefnogaeth ariannol.

Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn bwriadu creu Archif Ddarlledu Genedlaethol gwerth £9m fyddai'n gartref i 160,000 o recordiadau o archif raglenni BBC Cymru.

Dywedodd cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies wrth Bwyllgor Diwylliant y Cynulliad bod y deunydd yn cael ei gynnig fel "anrheg" i'r llyfrgell.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Rhodri Talfan Davies yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Diwylliant y Cynulliad ddydd Mercher

Ym mis Tachwedd y llynedd daeth i'r amlwg na fyddai Llywodraeth Cymru'n ymrwymo £1m tuag at y prosiect oherwydd pryder y gallai "beryglu sefydlogrwydd ariannol y Llyfrgell Genedlaethol yn y dyfodol".

Mae angen cefnogaeth llywodraeth ar y cynllun er mwyn sicrhau £5m o nawdd gan y loteri.

O 2024 ymlaen bydd y BBC yn darparu £20,000 y flwyddyn am dair blynedd tuag at gynnal a chadw'r archif, yn ogystal â chefnogaeth gwerth tua £40,000 ar gyfer materion hawliau.

Yn ogystal, mae'r gorfforaeth wedi gwario £2.3m yn digideiddio'r archif, ac fe fyddai copi digidol hefyd ar gael i'r Llyfrgell Genedlaethol.

'Dim gorfodaeth i'w dderbyn'

Dywedodd Mr Davies bod y BBC yn cynnig "pecyn sylweddol" o gymorth.

"Ry'n ni wedi egluro i'r llyfrgell a'r llywodraeth na fydd hi'n bosib i'r BBC fynd tu hwnt i'r pecyn sydd wedi'i rannu eisoes," meddai wrth y pwyllgor.

"Mae'n bwysig iawn pwysleisio yn gyntaf mai anrheg arfaethedig i'r Llyfrgell Genedlaethol yw hwn.

"Does dim gorfodaeth ar y llyfrgell i gymryd yr archif yn ei chyfanrwydd."

Disgrifiad o’r llun,

Y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth fyddai cartref yr Archif Ddarlledu Genedlaethol

Gan fod holl gynnwys BBC Cymru - yn dyddio 'nôl i'r 1930au - wedi'i storio'n ddigidol erbyn hyn, dyw'r darlledwr ddim angen y tapiau.

Dywedodd Mr Davies y byddai'r BBC yn cael gwared ar y tapiau rhyw ffordd arall os yw'r llyfrgell yn eu gwrthod.

"Dim ceisio osgoi costau mae'r BBC yma," meddai. "Os dyw'r llyfrgell ddim angen y deunydd ni fydd yn cael ei gadw - fe wnawn ni gael gwared arno."