Cyn-gapten Cymru, Matthew Rees yn ymddeol o rygbi

  • Cyhoeddwyd
Matthew ReesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Matthew Rees yn parhau i gynrychioli'r Gleision nes diwedd y tymor

Mae cyn-gapten tîm rygbi Cymru, Matthew Rees wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o'r gêm ar ddiwedd y tymor.

Fe wnaeth bachwr 38 oed y Gleision ennill 60 cap dros Gymru rhwng 2005 a 2014.

Enillodd dri chap dros y Llewod hefyd ar eu taith i Dde Affrica yn 2009.

"Yn dechrau fy ngyrfa ym Mhontypridd yn 2000 ni fyddwn fyth yn gallu dychmygu cyflawni'r hyn rydw i wedi'i wneud," meddai.

Gwella o ganser

Bu'n rhaid i Rees gymryd seibiant o'i yrfa rygbi ym mis Tachwedd 2013 ar ôl cael diagnosis o ganser ceilliol, cyn dychwelyd i chwarae ym Mawrth y flwyddyn olynol.

Roedd Rees yn rhan o bob gêm wrth i Gymru ennill y Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2008.

Ef hefyd oedd am arwain Cymru fel capten yng Nghwpan y Byd 2011, ond fe wnaeth anaf i'w wddf ei gadw allan o'r bencampwriaeth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y bachwr ennill 60 cap dros Gymru a thri dros y Llewod

"Mae'n anhygoel i fod yn chwarae rygbi proffesiynol yn 38 oed, yn enwedig yn y rheng flaen, ac mae chwarae dros 400 o gemau yn dipyn o gamp," meddai Rees.

"Rydw i wedi bod yn lwcus, ac rwy'n falch o bopeth rydw i wedi'i gyflawni.

"Chwarae dros Gymru yw breuddwyd pob plentyn, ac mae cynrychioli'r Llewod yn un fawr hefyd, yn enwedig mewn gemau prawf.

"Mae bod yn gapten ar y Scarlets, Cymru a'r Gleision yn anrhydedd enfawr, ac yn rhywbeth y byddai'n trysori am weddill fy mywyd."